Bydd cefnogwyr Abertawe a Chasnewydd yn cael mynychu gêmau ail-gyfle Pencampwriaeth EFL wythnos nesaf.

Daeth y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Y gêmau hyn fydd y tro cyntaf i ddilynwyr allu mynd i stadia yng Nghymru ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020.

Casnewydd fydd y tîm cyntaf i groesawu dilynwyr, gyda 900 o docynnau ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Forest Green ar Fai 18.

Bydd 3,000 o wylwyr yn cael mynychu gêm ail-gyfle Abertawe yn erbyn Barnsley ar Fai 22.

“Mae’r EFL wth eu boddau i nodi fod cefnogwyr yn cael caniatáu ffurfiol i fynychu gemau Dinas Abertawe a Sir Casnewydd yn y gemau ail-gyfle rownd gyn-derfynol Sky Bet,” meddau Prif Weithredwr EFL, Trevor Birch.

‘Hwb”

“Bydd cael cefnogwyr yn bresennol ym mhob gêm ail-gyfle yn hwb fydd yn cael ei groesawu gan bawb sy’n gysylltiedig â’r clybiau, a bydd yn dod â pheth o awyrgylch hudol gemau ail-gyfle yn ôl.

“Rydyn ni’n croesawu fod cadarnhau wedi cael ei roi, ac yn diolch i Lywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol, a phawb sydd wedi bod ynghlwm â chael cefnogwyr yn ôl ar gyfer y gemau cyffrous hyn.

“Gobeithio y bydd y gemau hyn a rhaglen brawf ehangach Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn cael dilynwyr yn ôl drwy’r giatiau mewn niferoedd uchel yng Nghymru cyn y tymor nesaf.”

Mae’r ddwy gêm yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru o ddigwyddiadau prawf, a ddechreuodd gydag Eid yn y Castell ddoe, a bydd 500 o bobol yn cael mynychu Tafwyl yng Nghaerdydd fory.

Nid yw gêmau Wrecsam wedi cael eu cynnwys fel rhan o’r rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf, ac yn ôl y rheolwr bydd Wrecsam dan anfantais drwy beidio â chael cefnogwyr yn eu gêmau.

Mae sawl un wedi gwrthwynebu fod pob un o’r digwyddiadau yn cael eu cynnal i’r de o Aberhonddu, ac mae Plaid Cymru Wrecsam wedi dechrau deiseb yn galw am ganiatau i gefnogwyr Wrecsam fynychu’r gêm yn y Cae Ras yn erbyn Notts County wythnos nesaf.

Wrecsam dan anfantais drwy beidio â chael cefnogwyr yn eu gemau cartref yn ôl Dean Keates

“Rydych chi’n gweld beth sy’n digwydd yn ne Cymru ac yn gobeithio efallai y gallan nhw ddefnyddio ni hefyd,” medd rheolwr Wrecsam