Mae ansicrwydd os bydd Ben Davies yn holliach ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2020.
Nid yw’r Cymro wedi chwarae yn nhair gêm ddiwethaf Tottenham, a gyda Chymru’n herio’r Swistir yn ei gêm agoriadol ar Fehefin 12 bydd hi’n ras i’w gael o’n barod.
Cafodd anaf i’w ffêr fis Mawrth ac nid yw’n debygol o chwarae i’w glwb eto’r tymor hwn.
“Dydw i ddim yn siŵr (os fydd o’n holliach),” meddai rheolwr dros dro Tottenham Hotspur, Ryan Mason
“Roedd Ben allan yn gwneud rhywfaint o waith unigol a gobeithio y bydd yn dod yn ei flaen dros y dyddiau nesaf a’r wythnos nesaf.
Allweddol
“Mae’n rhy gynnar i wneud penderfyniad ar yr Ewros ond rwy’n siŵr bod Ben yn teimlo’n hyderus ar hynny.
“Rydyn ni’n gwybod ei fod wedi bod allan ers cymaint o amser, nid yw’n realistig iawn disgwyl y bydd yn dychwelyd i hyfforddiant neu’n chwarae gêm yn y 10 diwrnod nesaf.”
Byddai gorfod teithio heb yr amddiffynnwr yn glec fawr i Gymru, ac yntau yn ffigwr allweddol yn y tîm ers blynyddoedd maith bellach.
Tyngedfennol
Mae gan Gymru opsiynau yn y safle hwnnw, gyda Neco Williams a Chris Gunter yn gallu chwarae ei safle.
Ond byddai profiad, gallu a dylanwad Ben Davies yn rhywbeth y byddai Rob Page wedi gobeithio gallu cymryd mantais ohonynt yn y bencampwriaeth.
Ar ôl chwarae yn erbyn y Swistir yn ei gêm agoriadol, bydd Cymru’n herio Twrci ar Fehefin 16, cyn teithio i Rufain i chwarae yn erbyn yr Eidal mewn beth allai fod yn gêm dyngedfennol.
Os daw hi lawr i’r gêm honno, byddai cael Ben Davies ar y cae yn bendant yn hwb mawr i Gymru.