Yn ystod ail brynhawn y gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Efrog yng Nghaerdydd, cafodd y gohebydd criced Edward Bevan wahoddiad i sylwebu ar belawd o’r gêm gyda’r Cymro Cymraeg a chyn-gapten a phrif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft.

Dan Douthwaite oedd yn bowlio at ddau chwaraewr rhyngwladol o Loegr – y capten Joe Root a’r chwaraewr amryddawn Dom Bess.

Ond hon oedd y belawd olaf cyn i’r chwaraewyr adael y cae yn sgil y golau gwael.

Cafodd yr eitem ei chyflwyno fel “rhywbeth ychydig yn wahanol” cyn i’r ddau droi i’r Gymraeg.

Ymhlith y rhai wnaeth ymateb i’r eitem mae Dafydd Iwan a’r cyn-Archdderwydd Jim Parc Nest (T. James Jones).

“Dwi’n gwybod fod S4C wedi cymeryd criced o’r blaen ac wrth edrych ar Twitter, mae pob un wedi mwynhau,” meddai Edward Bevan wrth golwg360.

“Mae rhai yn dweud wrtha’ i, ‘Pam na ’sen ni’n cael mwy nag un pelawd?’

“I bobol sydd yn deall Cymraeg, pam lai?

“Mae shwd gymaint o fotymau ar y teledu y dyddiau hyn, gallech chi ddodi sianel Gymraeg arno.

“Mae digon o bobol sy’n gallu sylwebu yn Gymraeg, pobol fel Alun Wyn Bevan a Gareth Charles, a byddai hynny’n neis iawn.

“Dw i ddim yn deall y politics, ond pob clod i Sky am ofyn i fi a Robert wneud rhywbeth fel’na.

“Ro’n i’n eistedd bore ’ma yn cael disgled o goffi a dyma gynhyrchydd Sky yn dod i mewn a gofyn “Alla i gael gair, oes modd i chi wneud pelawd neu ddwy yn Gymraeg?”

“Pwy arall sydd?” meddai fi. Wel, Rob Key, David Lloyd, Mike Atherton… a David Lloyd yn dweud “Fi moyn aros i glywed hwn!”

“Dywedodd David Lloyd wedyn am ei dad-cu, taw Cymro oedd e a daeth e lawr i Gaerdydd amser maith yn ôl i edrych am waith, a mynd ’nôl i Fanceinion.

“Dw i’n nabod David yn dda ac roedd hi’n neis clywed bod y sêr criced a’r teledu wedi’i fwynhau e.

“Hyfryd i weld Robert Croft yma hefyd – pwy a ŵyr, efallai awn ni ymlaen i sylwebu ar gemau prawf!” meddai wedyn, a’i dafod yn ei foch.

Dechrau trychinebus i Forgannwg

Ar ôl colli’r diwrnod cyntaf i gyd o ganlyniad i’r glaw, byddai Morgannwg wedi gobeithio dechrau’r ornest yn gryf, ond roedden nhw o dan bwysau o’r cychwyn cyntaf wrth i fowlwyr Swydd Efrog fanteisio ar lain werdd Gerddi Sophia.

Parhaodd dechrau siomedig Joe Cooke yng nghrys Morgannwg, wrth iddo fe gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Jordan Thompson am bump yn y chweched pelawd, a dim ond 18 o belenni barodd y batiwr tramor Marnus Labuschagne cyn iddo yntau golli ei wiced yn yr un modd oddi ar fowlio Ben Coad, a Morgannwg yn 34 am ddwy o fewn unarddeg o belawdau.

Ond roedd gwaeth i ddod iddyn nhw cyn cinio wrth i’r capten Steve Patterson gipio dwy wiced mewn pelawd, wrth fowlio David Lloyd am 31 cyn i Kiran Carlson gael ei ddal yn y slip gan Tom Kohler-Cadmore am bedwar.

Cwympodd wiced arall pan gafodd Billy Root ei ddal gan Harry Brook oddi ar ei fowlio’i hun am 23 i adael Morgannwg yn 73 am bump, ac roedden nhw’n 73 am chwech wrth i Dan Douthwaite gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Harry Brook heb sgorio cyn yr egwyl.

Diwedd y batiad ar ôl te

Ar ôl gorffen sesiwn y bore ar 77 am chwech, cafodd Morgannwg ddechrau digon siomedig i sesiwn y prynhawn hefyd, wrth i Harry Brook daro coes y capten Chris Cooke o flaen y wiced am dri, a’r tîm cartref yn 82 am saith.

Ychwanegodd Andrew Salter a Michael Neser 35 am yr wythfed wiced cyn i Neser gael ei ddal yn isel  yn y slip gan Adam Lyth oddi ar fowlio Thompson am 24, a’r sgôr yn 117 am wyth. Cwympodd Timm van der Gugten yn yr un modd, wrth gael ei ddal gan Tom Kohler-Cadmore oddi ar fowlio Patterson am naw, a’r sgôr yn 128.

Cwympodd y wiced olaf pan gafodd Michael Hogan ei ddal gan Joe Root oddi ar fowlio David Willey am saith, a Morgannwg i gyd allan am 149.

Wicedi cynnar cyn te

Doedd y llain yn fawr o gymorth i fatwyr Swydd Efrog chwaith, ac roedden nhw’n 10 am dair o fewn dim o dro ar ddechrau’r batiad cyntaf.

Cymerodd Kiran Carlson chwip o ddaliad ar ochr y goes oddi ar fowlio Michael Neser i waredu Adam Lyth, cyn i’w bartner agoriadol Tom Kohler-Cadmore gael ei fowlio gan Awstraliad arall, Michael Hogan am un.

Daeth trydedd wiced i Forgannwg oddi ar belen olaf sesiwn y prynhawn, wrth i Joe Cooke ddal Gary Ballance oddi ar fowlio Neser am saith.

Harry Brook a Joe Root, capten tîm Lloegr, gafodd y cyfrifoldeb o geisio achub batiad cynta’r Saeson ond fe darodd Neser goes Brook o flaen y wiced am 11, a’r sgôr yn 36 am bedair.

Brwydrodd yr ymwelwyr yn galed cyn i’r golau bylu, ac roedden nhw’n 69 am bedair wrth adael y cae.

  • Derbyniodd Billy Root ei gap sirol gan Forgannwg yn ystod y dydd, a hynny wrth i’w frawd Joe gerdded heibio i fynd i’r cae i fatio i Swydd Efrog

Dim criced yng Nghaerdydd ar ddiwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog

Mae Sky Sports yn darlledu gêm Bencampwriaeth Morgannwg am y tro cyntaf erioed
Joe Root

Morgannwg v Swydd Efrog: brwydr rhwng y brodyr Root ar Sky Sports

Morgannwg yn croesawu Swydd Efrog i Gaerdydd heddiw (dydd Iau, Mai 12), y tro cyntaf iddyn nhw chwarae gêm Bencampwriaeth ar y teledu