Doedd dim criced yn bosib ar ddiwrnod cyntaf gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd.

Roedd hi’n dal i fwrw glaw erbyn canol y prynhawn, ac fe ddaeth y cyhoeddiad toc ar ôl 3.45 na fyddai’r gêm, sy’n cael ei darlledu gan Sky Sports, yn dechrau heddiw.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Sky ddarlledu gêm Bencampwriaeth Morgannwg.

Joe Root

Morgannwg v Swydd Efrog: brwydr rhwng y brodyr Root ar Sky Sports

Morgannwg yn croesawu Swydd Efrog i Gaerdydd heddiw (dydd Iau, Mai 12), y tro cyntaf iddyn nhw chwarae gêm Bencampwriaeth ar y teledu