Fe fydd y gêm rhwng Morgannwg a Swydd Efrog – gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed sir y daffodil o flaen y camerâu teledu – hefyd yn frwydr rhwng y brodyr Billy a Joe Root.

Joe, sydd yng ngharfan yr ymwelwyr, yw capten tîm prawf Lloegr, ond ei frawd bach, sy’n chwarae i Forgannwg, oedd y gorau o’r ddau frawd wrth iddyn nhw herio’i gilydd yn eira Headingley fis diwethaf, pan sgoriodd e ganred yn y gêm gyfartal.

Hon, o bosib, fydd gêm olaf Joe i’r sir cyn iddo fe ymuno â charfan Lloegr fydd yn herio Seland Newydd mewn gemau prawf fis nesaf.

Bydd y gêm hefyd yn gyfle cyntaf i Marnus Labuschagne a Michael Neser, y ddau Awstraliad o Queensland, chwarae ochr yn ochr yng nghrys Morgannwg yng Nghaerdydd.

Ond mae’n debygol y bydd yr ornest yn cael ei heffeithio gan y tywydd ar y diwrnod cyntaf.

Joe Root
Joe Root
Billy Root
Billy Root

Gemau’r gorffennol

Ychydig iawn o gemau a fu rhwng y ddwy sir ers i’r Bencampwriaeth gael ei hollti’n ddwy adran.

Dydy’r ymwelwyr ddim wedi bod i Gaerdydd ar gyfer gêm Bencampwriaeth ers 1998, a doedden nhw ddim wedi chwarae gêm pedwar diwrnod yn erbyn ei gilydd o gwbl ers 2012 cyn y tymor hwn.

Ond yn sgil Covid, mae’r Bencampwriaeth wedi cael ei haddasu fel bod timau o’r Ail Adran yn cael chwarae yn erbyn timau o’r Adran Gyntaf.

Yn y gêm honno yn 1998, y tymor ar ôl i Forgannwg ennill Pencampwriaeth y Siroedd, enillodd y Saeson o 114 o rediadau wrth i’r Albanwr Gavin Hamilton sgorio 79 a 70 a chipio deg wiced am 112 ar draws y ddau fatiad.

Mae’r ddwy sir wedi herio’i gilydd 14 o weithiau yng Ngerddi Sophia ers 1966, pan symudod Morgannwg o Barc yr Arfau.

Yn y gêm gyntaf yno yn 1968, tarodd yr agorwr Phil Sharpe 114 wrth i’r troellwr Geoff Cope gipio deuddeg o wicedi i sicrhau buddugoliaeth o ddeg wiced.

Dim ond tair gwaith mae Morgannwg wedi curo Swydd Efrog yn eu cartref presennol, gyda’r un ddiwethaf yn 1987 wrth i’r troellwr tramor Rodney Ontong gipio chwe wiced am 91 wrth i’w dîm guro’r ymwelwyr o 73 rhediad.

Yn 1981, Ontong oedd y seren unwaith eto fel bowliwr lled-gyflym, gan gipio tair wiced mewn buddugoliaeth o ddeg wiced ar ôl i’r Cymro John Hopkins daro 116. Fe wnaeth Swydd Efrog ganlyn ymlaen cyn i Ezra Moseley gipio chwe wiced am 63 i osod nod i Forgannwg o 44.

Daeth y fuddugoliaeth arall yn 1973 dros dridiau glawiog, ond cwympodd 20 wiced ar y diwrnod olaf wrth i’r troellwr llaw chwith Phil Carrick gipio pum wiced am 24 i’r ymwelwyr cyn i’r troellwr Roger Davis sicrhau’r fuddugoliaeth i Forgannwg gyda phum wiced am 12 wrth i’w dîm ennill o 65 rhediad.

Roedd yr ornest yn 1996 yn un i’r ystadegwyr wrth i nifer o fatwyr dorri record wrth i Forgannwg sgorio 482 am saith cyn cau’r batiad – eu sgôr gorau erioed yn erbyn Swydd Efrog yng Nghymru.

Sgoriodd Hugh Morris 202 heb fod allan cyn i Swydd Efrog ymateb gyda chyfanswm o 536 am wyth cyn cau’r batiad – eu cyfanswm gorau nhw yng Nghymru hefyd, gyda Martyn Moxon, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Criced y sir, yn sgorio 213. Dyma’r ddau sgôr unigol gorau mewn gemau rhwng y ddwy sir.

Mae angen pedair wiced ar Michael Hogan i gyrraedd y garreg filltir o 400 o wicedi dosbarth cyntaf i Forgannwg – a’r rheiny wedi dod oddi ar 19,982 o belenni i’r sir wrth iddo fe baratoi i ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed cyn diwedd y mis. Cipiodd e bedair wiced yn y gêm gyfatebol yn Headingley.

Y timau

O safbwynt Swydd Efrog, mae’r chwaraewr amryddawn rhyngwladol llaw chwith David Willey yn dychwelyd i’r garfan ar ôl gorffwys yr wythnos ddiwethaf, ac fe allai’r wicedwr 19 oed Harry Duke chwarae yn ei gêm gyntaf dros sir y rhosyn gwyn.

Mae batwyr rhyngwladol eraill o Loegr yn y garfan, sef Gary Balance ac Adam Lyth, yn ogystal â’r troellwr Dom Bess.

Mae Matthew Fisher allan o hyd ag anaf i’w stumog, ac mae Matthew Waite yn parhau i wella o anaf i’w ochr.

Yn nhermau’r gystadleuaeth, mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl ar ôl ennill un gêm, colli dwy a gorffen yn gyfartal ddwywaith, mae Swydd Efrog ar y blaen iddyn nhw o 28 o bwyntiau.

Bydd y gêm yn cael ei ffrydio’n fyw ar y we, wrth i Sky Sports ddarlledu gan ddefnyddio’r ffrwd ac fe fydd Robert Croft, cyn-gapten a chyn-brif hyfforddwr Morgannwg yn un o’r sylwebyddion.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), J Cooke, L Carey, K Carlson, D Douthwaite, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, B Root, A Salter, C Taylor, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: G Balance, D Bess, H Brook, B Coad, H Duke, T Kohler-Cadmore, A Lyth, D Olivier, S Patterson (capten), J Root, J Thompson, D Willey

Sgorfwrdd