Mae Joe Calzaghe, cyn-bencampwr bocsio’r byd, wedi dod i gytundeb mewn anghydfod cyfreithiol gydag un o’i chwiorydd, dywedwyd wrth farnwr.
Roedd Sonia Prosser wedi erlyn ei brawd, Joe, a’i chwaer, Melissa Calzaghe, mewn anghydfod yn ymwneud â gweinyddu ystâd eu diweddar dad.
Roedd y Barnwr Milwyn Jarman, sy’n clywed achosion llys sifil yng Nghaerdydd, i fod i oruchwylio gwrandawiad ar-lein ddydd Mercher, ond dywedodd cyfreithwyr oedd yn cynrychioli pob ochr wrtho ar ddechrau’r gwrandawiad bod cytundeb rhwng y partïon.
“achos trist iawn o ymryson rhwng brodyr a chwiorydd”
Ni ddaeth unrhyw fanylion am yr anghydfod i’r amlwg.
Disgrifiodd y barnwr yr anghydfod fel “achos trist iawn o ymryson rhwng brodyr a chwiorydd”.
Dywedodd ei fod yn falch bod pawb wedi dod o hyd i “ffordd allan” o “sefyllfa anodd iawn”.
Ymddangosodd Mr Calzaghe, 49, sy’n dod o Drecelyn, Gwent, ac sy’n un o’r pencampwr byd pwysau canol uwch gorau yn hanes y gamp, yn y gwrandawiad drwy gyswllt fideo.
Ei dad, Enzo, oedd ei hyfforddwr drwy gydol ei yrfa.