Bydd Wrecsam dan anfantais drwy beidio â chael cefnogwyr yn eu gemau cartref am weddill y tymor, medd y rheolwr Dean Keates.

Mae’r Gynghrair Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd cefnogwyr cartref yn cael mynychu gemau rhwng 17 Mai a diwedd y tymor, gan gynnwys y gemau ail-gyfle.

Ond nid yw Wrecsam wedi’i gynnwys yn nigwyddiadau prawf Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi naw digwyddiad prawf ar draws chwaraeon a diwylliant i reoli dychweliad cynulleidfaoedd wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Bydd gan gêm Cymru yn erbyn Albania ar 5 Mehefin dorf o 4,000, a bydd gan Abertawe a Chasnewydd dorfeydd wrth gystadlu yng ngemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth a League Two.

“Does dim dwywaith am y peth, boed o’n 50 o bobol yno neu 500 o bobol, mae’n gwneud gwahaniaeth,” meddai Keates wrth BBC Sport Wales.

“Pan nad oes awyrgylch a dim torf yn gweiddi, a yw hynny’n dylanwadu ar benderfyniad y dyfarnwr a’r hyn y mae’n ei wneud yn yr eiliad hwnnw? Ydi, dw i’n credu ei fod o.

“Bydd yn niweidiol i ni os byddwn yn mynd i gemau ac mae’r timau rydyn yn chwarae yn eu herbyn yn cael cefnogwyr yn eu stadiymau.”

Ond mae yno obaith y bydd Wrecsam yn cael yr i fod â thorf, yn ôl Keates.

“Rydych chi’n gweld beth sy’n digwydd yn ne Cymru ac yn gobeithio efallai y gallan nhw ddefnyddio ni hefyd.

“Rwy’n credu ein bod yn dal i sgwrsio â Llywodraeth Cymru felly gobeithio y bydd rhywbeth yn gallu cael ei weithio allan.”

Cadarnhaodd Wrecsam mewn datganiad bod y clwb yn gallu gofyn am ganiatâd i gael cefnogwyr yn bresennol mewn unrhyw gêm gartref, gan ychwanegu: “Mae’r cyfle hwn yn debyg i’r hyn a ddarperir i Abertawe a Chasnewydd.

“Mae’r clwb bellach yn cyflymu’r gwaith sydd ei angen i wneud y cais hwn.

“Y dyddiad cynharaf y gellid derbyn cefnogwyr i’r Cae Ras fyddai 5/6 Mehefin ond wrth gwrs, ni fydd hyn yn dod yn realiti oni bai bod y clwb yn gorffen yn bumed neu’n uwch yng Nghynghrair Genedlaethol Vanarama.”