Mae’r ras i goroni pencampwyr Uwch-gynghrair Cymru yn dod i lawr i’r ddwy gêm olaf.

Wrth fynd i mewn i’r penwythnos olaf mae Cei Connah ddau bwynt ar y blaen i’r Seintiau Newydd.

Bydd tîm Andy Morrison yn teithio i Penybont, gyda buddugoliaeth a thri phwyhnt yn ddigon i sicrhau’r tlws, tra bod y Seintiau Newydd yn herio’r Bala.

Bydd y gêm fyw ar S4C ym Mhen-y-bont, gyda Chei Connah yn gwybod byddai buddugoliaeth yn golygu codi tlws y Bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol.

Ond fe allai’r Seintiau ei chipio – fe fydd y diweddaraf o gêm Y Seintiau Newydd v Y Bala yn y rhaglen, gêm sydd hefyd ar gael yn fyw arlein – yr un amser.

Enillodd Penybont 2-0 yn erbyn Cei Connah fis Ebrill.

A bydd y Nomads yn gorfod chwarae heb eu hymosodwr Michael Wilde, oedd yn arfer chwarae i’r Seintiau, gan ei fod wedi derbyn pum cerdyn melyn.

Dydd Sadwrn (Mai 15) fydd y tro cyntaf ers naw mlynedd i dlws Uwch Gynghrair Cymru gael ei benderfynu ar y diwrnod olaf – rhywbeth mae Andy Morrison wedi ei alw’n “anhygoel”.

Anhygoel

“Dylai’r ddau glwb fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni,” meddai wrth BBC Sport Wales.

“Mae wedi bod yn ras anhygoel rhwng y ddau ohonom hyd at rŵan.

“Mae un gêm ar ôl a gadewch i’r tîm gorau ar ddiwedd hynny a dros y tymor gael eu coroni’n bencampwyr y gynghrair.”

Cafodd tîm Andy Morrison eu coroni’n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru’r tymor diwethaf o dan ddull pwyntiau fesul gêm ar ôl i’r tymor ddod i ben oherwydd y pandemig gyda’r Seintiau yn ail.

“Fe ddangoson ni’r llynedd mai ni oedd y tîm gorau yn y gynghrair dros y cyfnod y chwaraewyd y gemau a’r tymor hwn rydyn ni wedi gwneud hynny eto.

“Mae unrhyw gwestiynau am y tymor diwethaf wedi cael eu diystyru ac roedd hynny’n bwysig iawn i mi’n bersonol.

“Mae ein gwaith caled y tymor hwn wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn yn mynd i mewn i gêm olaf y tymor.”

‘Haeddu’

I’r Seintiau Newydd, sydd wedi ennill yr Uwch-gyngrhair 13 o weithiau, mae eu tynged allan o’u dwylo.

“Y cyfan y gallwn ei reoli yw’r hyn y gallwn ei reoli,” meddai prif hyfforddwr y Seintiau Anthony Limbrick.

“Rydyn ni wedi gwneud hynny’n dda yn y ddwy gêm ddiwethaf, gan ennill 3-0 yn y ddwy gêm, a byddwn ni’n gwneud yr un peth yn union ddydd Sadwrn – ceisio ennill ein gêm a gweld ble mae hynny’n ein rhoi ni.

“Ond un peth y byddwn i’n ei ddweud yw pwy bynnag sy’n gorffen ar y brig ar ddiwedd y tymor yn haeddu ennill y gynghrair ac os mai ni yw’r pencampwyr, gwych, os nad wedyn pob lwc i Gei Connah ac maen nhw’n ei haeddu.”

Mae Seintiau’n debygol o fod heb y Dean Ebbe a anafwyd tra bod Danny Redmond wedi’i wahardd ar ôl derbyn pum cerdyn melyn.

Gemau’r penwythnos olaf

Y Barri v Caernarfon

Penybont v Cei Connah

Y Seintiau Newydd v Y Bala

Met Caerdydd v Y Fflint

Hwlffordd v Derwyddon Cefn

Y Drenewydd v Aberystwyth