Mae Cei Connah wedi ennill pencampwriaeth Uwch-gynghrair Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl curo Pen-y-bont 2-0 y pnawn yma.

Aeth y tîm o Lannau Dyfrdwy ar y blaen yn fuan gyda gôl gan y capten George Horan yn y pedwerydd munud. Fe fu’n gêm lawn cyffro a thyndra wedyn hyd nes i’r fuddugoliaeth gael ei selio’n derfynol gyda gôl arall gan Aeron Edwards ychydig mwy na chwarter awr cyn y diwedd.

Tlws Cynghrair Cymru

Cyn y gêm, roedd Cei Connah eisoes ddau bwynt ar y blaen i’r Seintiau Newydd yn y gynghrair, ac mae’r tri phwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau’r tlws.

Heddiw oedd y tro cyntaf ers naw mlynedd i dlws yr Uwch-gynghrair cael ei benderfynu ar y diwrnod olaf.

Diweddglo cyffrous i goroni pencampwyr Uwch-gynghrair Cymru

Sgorio yn darlledu dwy gêm yr un pryd wrth i’r ras am y Cymru Premier JD gyrraedd y Sadwrn olaf