Penybont 0-2 Cei Connah

Cei Connah yw pencampwyr y Cymru Premier ar ôl curo Penybont oddi cartref yn Stadiwm SDM Glass ar y Sadwrn olaf.

Roedd angen buddugoliaeth ar y Nomadiaid i ddiogelu’r bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol a dyna’n union a gawsant diolch i goliau George Horan ac Aeron Edwards.

Dechrau da

Gyda Mike Wilde wedi’i wahardd, roedd ambell un yn dyfalu pwy a fyddai yn y cwrt cosbi i fanteisio ar y cyflenwad diddiwedd arferol o groesiadau o esgyll Cei Connah. Pum munud yn unig y bu rhaid aros am ateb wrth i’r amddiffynnwr canol, Horan, ddarganfod ei hun yn y cwrt i benio’i dîm ar y blaen o groesiad Edwards.

Daeth Penybont yn fwyfwy i mewn i’r gêm wedi hynny ond heb fygwth llawer ar gôl Oliver Byrne mewn gwirionedd.

Parhau i wella a wnaeth y tîm cartref ar ddechrau’r ail hanner a hwy oedd y tîm gorau am gyfnodau hir.

Hen ben

Gydag un golwg ar y gemau ail gyfle, roedd Rhys Griffiths wedi gorffwyso ambell chwaraewr ar gyfer y gêm hon. Collodd Kostya Georgievsky i anaf yn yr hanner cyntaf hefyd a phenderfynodd y rheolwr gamu i’r cae ei hun ar gyfer yr hanner awr olaf, er ei fod bellach yn 41 mlwydd oed!

Un o hen bennau’r ymwelwyr a gafodd y gair olaf serch hynny wrth i Edwards ddyblu mantais y Nomadiaid gyda chwarter awr yn weddill gyda pheniad pwerus o groesiad Danny Davies. Ar ôl profi cymaint o lwyddiant gyda’r Seintiau Newydd dros y blynyddoedd, mae Edwards bellach wedi ennill y gynghrair ar ei gynnig cyntaf gyda’i dîm newydd.

Aros yng Nghymru

Tynnodd y gôl honno’r gwynt o hwyliau Penybont ac roedd y fuddugoliaeth a’r bencampwriaeth yn ddiogel i dîm Andy Morrison.

Sôn am hwyliau, roedd Morrison ar ei orau ar ddiwedd y gêm, yn gwisgo het gowboi debyg iawn i’r un y mae perchennog y Seintiau, Mike Harris, yn ei gwisgo! Ac fel y dywedodd yr Albanwr ar ddiwedd y gêm, mae tlws Uwch Gynghrair Cymru yn aros yng Nghymru!

Ac ai dyma’r tro olaf i ni weld Morrison yn y Cymru Premier? Roedd awgrym cryf yn ei gyfweliad ar ôl y gêm y bydd yn gadael.

*

Y Seintiau Newydd 2-0 Y Bala

Bu’n rhaid i’r Seintiau Newydd fodloni ar orffen yn ail yn y Cymru Premier am yr ail dymor yn olynol er gwaethaf buddugoliaeth gartref yn erbyn y Bala ar Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.

Roedd y Seintiau angen canlyniad gwell na Chei Connah ar y diwrnod olaf ac er iddynt gadw eu hochr hwy o’r fargen, nid oedd yn ddigon oherwydd buddugoliaeth y Nomadiaid.

Clark, coch a Cieslewicz

Deg munud yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd Ben Clark y sgorio, yn cyfuno’n dda gyda Ryan Brobbel cyn cylchu’r golwr i sgorio.

Aeth y Seintiau i lawr i ddeg dyn yn fuan wedi hynny, cerdyn coch i Ryan Harrington am dynnu crys Kieran Smith ag yntau’n rhedeg at gôl.

Yn naturiol, cafodd y Bala gyfnod gwell wedi hynny ond ar ôl cael cyfle i adrefnu ar yr egwyl roedd deg dyn y Seintiau yn edrych yn ddigon cyfforddus yn yr ail hanner.

Dyblodd Adrian Cieslewicz y fantais yn gynnar, yn cymryd ei ergyd yn gynnar i guro Harri Lloyd yn y gôl.

Ail ail yn olynol

Felly yr arhosodd hi tan y diwedd. Buddugoliaeth ddigon gyfforddus i’r Seintiau ond rhy ychydig rhy hwyr yng nghyd-destun y tymor.

Wrth iddynt orffen yn ail, ddau bwynt y tu ôl Gei Connah, bydd y Seintiau’n gwybod mai’r gemau rhwng y ddau dîm a oedd y rhai pwysig. Un fuddugoliaeth i’r Seintiau, dwy i’r Nomadiaid ac un gêm gyfartal a fu a dyna pam y mae’r teitl yn aros yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy am dymor arall.

 

*

Y Barri 3-2 Caernarfon

Y Barri a aeth â hi wrth iddynt groesawu Caernarfon i Barc Jenner yn y gêm arall yn yr hanner uchaf ddydd Sadwrn.

Yn rhagflas o’r gêm ail gyfle Ewropeaidd sydd i ddod, enillodd y tîm cartref o dair gôl i ddwy.

Rhoddodd Darren Thomas y Cofis ar y blaen cyn i’r Barri daro nôl gyda goliau David Cotterill, Rhys Kavanagh a Jordan Cotterill.

Rhwydodd Thomas ei ail ef ac ail ei dîm yn yr eiliadau olaf ond ni fydd neb yn poeni llawer am ganlyniad y gêm hon, y cyfarfyddiad nesaf rhwng y ddau dîm yw’r un pwysig.

*

Y Drenewydd 0-4 Aberystwyth

Heb os ag un llygad ar y gemau ail gyfle, colli’n drwm a fu hanes y Drenewydd yng ngêm olaf y tymor arferol wrth i Aberystwyth ymweld â Pharc Latham.

Rhwydodd Matthew George, Jonathan Evans, Owain Jones a Harry Franklin wrth i Aber ennill o bedair gôl i ddim.

Ond roedd y seithfed safle eisoes yn ddiogel i’r Drenewydd a gêm fawr yn eu haros yn erbyn Penybont yn y gemau ail gyfle.

Er nad oes neb yn disgyn pryn bynnag, mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod Aber yn gorffen uwch ben y ddau safle isaf yn y tabl.

*

Met Caerdydd 2-1 Y Fflint

Gorffennodd Met Caerdydd y tymor yn wythfed a’r Fflint yn yr unfed safle ar ddeg wedi i’r myfyrwyr ennill o ddwy gôl i un yng ngêm olaf y tymor ar Gampws Cyncoed.

Rhoddodd Chris Baker y tîm cartref ar y blaen cyn i Ross Weaver daro nôl i’r ymwelwyr. Yna, gôl hwyr Liam Warman a gipiodd y tri phwynt i’r tîm o’r brifddinas.

*

Hwlffordd 2-0 Derwyddon Cefn

Gorffennodd Hwlffordd dymor cyntaf digon parchus yn ôl yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth dros Derwyddon Cefn ar Ddôl y Bont ar y Sadwrn olaf.

Er iddynt bylu mymryn wedi dechrau da, mae’r Adar Gleision yn gorffen yn nawfed yn y tabl.

Gôl i’w rwyd ei hun gan Josef Faux ac un i’r rhwyd iawn gan Scott Tancock a seliodd y tri phwynt y tro hwn.

Tymor i’w anghofio i Cefn, yn gorffen ar y gwaelod gyda dim ond pedair buddugoliaeth ac wedi ildio bron i gant o goliau!

Cei Connah yn bencampwyr Uwch-gynghrair Cymru eleni eto

Ennill tlws yr Uwch-Gynghrair am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl curo Pen-y-bont 2-0