Mae Morgannwg dan bwysau ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd, ar ôl i Joe Root daro 99 yn erbyn tîm ei frawd Billy.

Llwyddodd yr ymwelwyr i gael blaenoriaeth o 81 yn eu batiad cyntaf ar ôl bowlio Morgannwg allan am 149 yn eu batiad cyntaf nhw.

Yn yr ail fatiad, mae Morgannwg yn 108 am dair, 27 o rediadau yn unig ar y blaen, gyda’r ddau Gymro David Lloyd (heb fod allan ar 40) a Kiran Carlson (heb fod allan ar 44) wrth y llain.

Capten Lloegr yn serennu

Ar ôl sawl archwiliad o’r cae yn ystod y bore, cymerodd y chwaraewyr ginio cynnar cyn dechrau am 1.10yp, gydag 80 o belawdau’n weddill.

Morgannwg gafodd y gorau o’r amodau ar ddechrau’r prynhawn, wrth gipio tair wiced gynnar.

Cafodd Dom Bess ei ddal yn y slip gan David Lloyd, cyn i Harry Duke, wicedwr 17 oed yn ei gêm gytaf i Swydd Efrog, gael ddal oddi ar y belen ganlynol gan Joe Cooke a gipiodd chwip o ddaliad yn sgwâr ar ochr y goes wrth neidio am yn ôl.

Roedd hynny’n golygu bod gan Neser bum wiced yn ei fatiad cyntaf gartref i Forgannwg.

Cipiodd Michael Hogan wiced dair pelawd yn ddiweddarach, wrth daro coes Jordan Thompson o flaen y wiced am 12, a’r sgôr wedi mynd o 78 am bedair i 91 am saith o fewn dim o dro.

Roedden nhw’n 111 am wyth pan darodd David Willey ergyd wael yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Dan Douthwaite, a’r batiwr allan am saith.

Er bod cyfanswm batiad cyntaf Morgannwg yn ymddangos yn isel, mae Swydd Efrog hefyd wedi cael cryn drafferth yn batio ar y llain, ac roedd eu tynged yn niwedd y batiad yn nwylo Joe Root, capten Lloegr, a hwnnw’n cyrraedd ei hanner canred oddi ar 120 o belenni.

Roedd e a’r capten Steve Patterson wedi ychwanegu 74 yn ddiguro am y nawfed wiced cyn te, wrth i’r ymwelwyr ddechrau adeiladu blaenoriaeth, ac roedden nhw eisoes ar y blaen o 36 erbyn yr egwyl ac yn peri cryn anhawster i fowlwyr Morgannwg.

80 oedd eu blaenoriaeth pan gafodd Root ei fowlio trwy ei goesau am 99 gan Dan Douthwaite, ac fe ddaeth y batiad i ben un rhediad yn ddiweddarach pan gafodd Ben Coad ei ddal gan Michael Neser yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Andrew Salter heb sgorio, a’r ymwelwyr i gyd allan am 230.

Roedd Patterson heb fod allan am 47.

Ail fatiad Morgannwg

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad 81 o rediadau ar ei hôl hi, felly, gyda 27 o belawdau’n weddill.

Ond roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion o fewn dim o dro, wrth golli Joe Cooke a Marnus Labuschagne o fewn chwe phelawd.

Cafodd Cooke ei ddal gan y wicedwr Harry Duke oddi ar fowlio Ben Coad, wrth i dymor siomedig y batiwr agoriadol llaw chwith barhau, ac yntau wedi sgorio cyfanswm o 26 o rediadau’n unig mewn pum batiad.

Cafodd Labuschagne gael ei fowlio oddi ar ei drydedd pelen heb sgorio gan Jordan Thompson, gyda’r bêl yn gwyro ’nôl at y batiwr a’r tîm cartre’n 17 am ddwy.

Roedden nhw’n 43 am dair yn y bedwaredd pelawd ar ddeg pan darodd Harry Brook goes Billy Root o flaen y wiced am 13 – er bod y camerâu teledu yn awgrymu y byddai’r bêl wedi teithio heibio’r ffon agored.

Bu’n rhaid i Forgannwg ddibynnu ar David Lloyd a Kiran Carlson ar ddiwedd y dydd ac fe lwyddon nhw i wynebu hanner y pelawdau’n weddol ddi-drafferth.

Y sylwebaeth griced gyntaf erioed yn Gymraeg ar Sky Sports

Alun Rhys Chivers

“Pob clod i Sky am ofyn i fi,” meddai Edward Bevan wrth golwg360 ar ail ddiwrnod y gêm rhwng Morgannwg a Swydd Efrog yng Nghaerdydd

Dim criced yng Nghaerdydd ar ddiwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog

Mae Sky Sports yn darlledu gêm Bencampwriaeth Morgannwg am y tro cyntaf erioed
Joe Root

Morgannwg v Swydd Efrog: brwydr rhwng y brodyr Root ar Sky Sports

Morgannwg yn croesawu Swydd Efrog i Gaerdydd heddiw (dydd Iau, Mai 12), y tro cyntaf iddyn nhw chwarae gêm Bencampwriaeth ar y teledu