Mae Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, yn disgwyl i’r pedwar tîm yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth “daflu popeth” at y gystadleuaeth er mwyn ennill eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Bydd Abertawe’n teithio i Barnsley ar gyfer cymal cynta’r gêm gyn-derfynol nos fory (Mai 17) cyn dychwelyd i Stadiwm Liberty bum niwrnod yn ddiweddarach i chwarae gerbron 3,000 o gefnogwyr.

Bydd Bournemouth a Brentford yn herio’i gilydd yn y gêm ail gyfle arall.

Daeth ymgyrch yr Elyrch i ben yn y rownd gyn-derfynol y llynedd wrth iddyn nhw golli yn erbyn Brentford, ond fe wnaethon nhw ennill deg pwynt yn llai yn y gynghrair nag y gwnaethon nhw y tymor hwn.

Serch hynny, Barnsley oedd un o’r timau cryfaf yn niwedd y tymor, er mai’r Elyrch oedd wedi gorffen yn drydydd, sef safle ucha’r gemau ail gyfle.

“Mae’r gemau ail gyfle’n sefyll ar eu pen eu hunain, gall unrhyw beth ddigwydd,” meddai’r capten Matt Grimes, sy’n chwarae yng nghanol cae.

“Bydd timau’n taflu popeth ati er mwyn cael dychwelyd i wlad yr addewid.

“Mae’r rhain yn gemau unigryw ond rydyn ni’n gobeithio, gyda’r profiad gawson ni’r llynedd, y bydd gyda ni’r arfau i fynd gam ymhellach y tro hwn.

“Dyma’r gemau rydych chi eisiau bod yn rhan ohonyn nhw.

“Gallai’r rhain fynd â ni i’r lefel nesaf, ac mae’n destun cyffro mawr.

“Rydych chi eisiau mynd yr holl ffordd, ac fe aethon ni i mewn i’r safleoedd ail gyfle ar ddiwrnod ola’r tymor diwethaf, oedd yn rollercoaster emosiynol.

“Mae hi ychydig yn wahanol eleni gan nad ydyn ni wir wedi bod allan o’r [safleoedd] ail gyfle.

“Rydyn ni wedi cael tymor da iawn hyd yn hyn, ac wedi mynd o nerth i nerth.

“Mae teimlad positif iawn yn y garfan, felly rydyn ni’n mynd i mewn i’r gêm hon yn llawn hyder.”

Croesawu’r cefnogwyr

Yn ôl Matt Grimes, fe fydd y chwaraewyr yn cael hwb o weld cefnogwyr yn Stadiwm Liberty ar gyfer yr ail gymal.

Dydy nifer o’r chwaraewyr newydd yn y garfan ddim wedi chwarae gerbron y dorf o’r blaen.

“Mae’n newyddion gwych,” meddai ar ôl cadarnhad fod y gêm yn un o ddigwyddiadau prawf Llywodraeth Cymru er mwyn denu cynulleidfaoedd a thorfeydd i ddigwyddiadau eto yn dilyn y pandemig Covid-19.

“Allwn ni ddim aros i gael chwarae gerbron ein cefnogwyr oherwydd aeth cymaint o amser heibio ers i ni wneud hynny.

“Gobeithio y gallan nhw roi tipyn o hwb i ni a’n helpu ni dros y llinell.

“Mae’n wallgof meddwl nad yw rhai o’r bois wedi profi bloedd y ‘Jack Army’ eto ond pan fyddan nhw’n gwneud hynny, dw i’n gwybod pa mor arbennig fydd y teimlad hwnnw.”