Mae gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog wedi dod i ben yn gyfartal.
Doedd dim modd dechrau’r diwrnod olaf tan 4.10yp yn sgil cae gwlyb ar ôl sawl cyfnod o law dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys y diwrnod cyntaf pan nad oedd hi’n bosib chwarae o gwbl.
Dechreuodd Morgannwg ar 108 am dair, ac roedden nhw’n 164 am bedair ar ddiwedd yr ornest, ar ôl i Ben Coad daro coes David Lloyd o flaen y wiced am 40.
Ychwanegodd y capten Chris Cooke a Kiran Carlson, ar ei ben-blwydd yn 23 oed, 47 o rediadau am y bumed wiced cyn i’r chwaraewyr siglo dwylo.
Roedd Carlson heb fod allan ar 88, ac mae e bellach wedi sgorio dau ganred a phedwar hanner canred y tymor hwn.
Mae Morgannwg yn drydydd yn y tabl, tra bo Swydd Efrog ar y brig.
Hon oedd eu gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed ar Sky Sports.