Mae Steve Cooper, rheolwr Abertawe, wedi dweud bod yn rhaid i’w dîm “gredu yn ein hunain ac yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud”.

Daw hyn wrth i’r Elyrch baratoi i herio Barnsley oddi gartref yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth.

Mae Abertawe yn chwarae yn y gemau ail-gyfle am yr ail dymor yn olynol.

Llwyddodd yr Elyrch i guro Barnsley 2-0 yn y ddwy gêm chwaraeodd y clybiau yn erbyn ei gilydd yn y gynghrair y tymor hwn.

Ond mae Steve Cooper yn credu fod gan y pedwar tîm sydd yn y gemau ail-gyfle siawns hafal o ennill dyrchafiad i’r Uwch-Gynghrair.

“Mae’r cam cyntaf sef y gynghrair wedi’i gwblhau ac rydym i gyd yn dechrau eto yn y gemau ail-gyfle – pedwar tîm ac rydym i gyd yn dechrau yn yr un man,” meddai Steve Cooper.

“Mae’n ymwneud â phwy bynnag sy’n perfformio yn y ddwy gêm gyntaf i ddechrau, bydd rhywun yn mynd drwodd ac yna mae gêm arall ar ôl hynny.

“Mae’r pedwar tîm yn yr un sefyllfa yn union, ac i gyd yn cystadlu am yr un peth.

“Rhoddom gynnig da ar sicrhau dyrchafiad awtomatig er ein bod wedi ei chael hi’n anodd tuag at ddiwedd y tymor, ond mae’r gemau ail-gyfle yn rhoi cyfle arall i chi geisio cael eich dyrchafu.

“Mae’n rhaid i ni gredu yn ein hunain ac yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.”

Yr unig chwaraewr sy’n absennol oherwydd anaf i Abertawe yw amddiffynnwr Dan-21 Cymru, Brandon Cooper, a gafodd anaf i’w ffêr wrth hyfforddi a fydd yn ei gadw allan tan y tymor nesaf.

Bydd Barnsley yn teithio i Gymru ar gyfer yr ail gymal ddydd Sadwrn (Mai 22).