Mae Padraig Amond, ymosodwr Casnewydd, wedi dweud fod colli allan ar ddyrchafiad drwy’r gemau ail-gyfle yn 2019 yn ei ysgogi i wneud yn iawn am y methiant eleni.
Roedd y gŵr 33 oed yn rhan o dîm Casnewydd a gollodd rownd derfynol gemau ail-gyfle League Two i Tranmere yn 2019 ym munud olaf amser ychwanegol.
Bydd Casnewydd yn herio Forest Green yn Rodney Parade yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle ddydd Mawrth, 19 Mai.
Ac mae Amond yn cyfaddef y bydd yr atgofion poenus hynny’n ysgogi.
“Fe wnes i briodi yn fuan ar ôl hynny ac es i ffwrdd ar fy mis mêl, a drwy gryn dipyn o’r mis mêl, roeddwn i’n dal i ddangos y llun hwn ohonof fi fy hun ar ôl y gêm pan roeddwn wedi torri fy nghalon a dweud: ‘Dw i am ddefnyddio hwn fel cymhelliant i ddychwelyd i lle dylem fod’.
“Mae’n ffordd erchyll o golli gêm. Mae’n ddigon drwg colli yn amser arferol, ond mae colli i gic olaf y gêm a gwybod nad oedd cyfle i ddod yn ôl yn ofnadwy.
“Mae hynny’n rhywbeth yr ydym, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi bod yn awyddus iawn i’w newid a’i gywiro.
“Mae’n debyg bod y clwb mewn sefyllfa well nawr nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl, felly dwi’n meddwl ein bod ni’n barod amdano.”
Y gêm fydd y gyntaf yng Nghymru i gael ei chwarae o flaen cefnogwyr ers i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, ac mae Amond yn gobeithio y bydd ei fab naw mis oed Eoghan ymhlith y 900 o wylwyr wrth iddo ef a’i gydchwaraewyr geisio dod â rhywfaint o’r llawenydd y gwelsant enillwyr Cwpan yr FA Caerlŷr yn ei fwynhau dros y penwythnos.
“Mae gweld y dathliadau wedyn a faint roedden nhw’n mwynhau dathlu gyda’u cefnogwyr, mae hynny’n bethau y mae pawb wedi’u colli am y flwyddyn a hanner ddiwethaf.
“Mae pobol yn awyddus iawn i fod yn rhan o hynny.”