Mae’r Cymro Tom Pugh wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Scunthorpe fydd yn ei gadw gyda’r clwb am flwyddyn arall.

Mae’r gŵr 20 oed, sy’n chwarae i Gymru dan 21 oed, wedi gwneud wyth ymddangosiad i’r clwb ers chwarae i’r clwb am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018.

Dywedodd Pugh wrth wefan swyddogol Scunthorpe: “Rwy’n hapus iawn i arwyddo’r cytundeb.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddod yn ôl yn heini cyn y tymor newydd.

“Dywedodd y rheolwr wrtha i am ddod yn ôl mor heini ag y gallwn, a bod yn barod i fwrw ’mlaen yn y tymor nesaf.

“Bydd yno wynebau newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at gael dod at ein gilydd a rhoi cynnig da arni.

“Rydw i eisiau chwarae cystal ag y gallaf, cyflawni gymaint o funudau ag sy’n bosib a gweld beth ddaw.

“Mae’n wych cael chwarae i’r tîm cyntaf, dyma beth rwyt ti’n breuddwydio amdano pan ti’n iau, ac mae cael dy deulu yn dy gefnogi a’u gwneud nhw yn hapus yn deimlad gwych.

“Nawr mae’n rhaid i mi adeiladu ar hyn a bwrw ymlaen.”