Mae anthem BBC Radio Cymru ar gyfer yr Ewros eleni yn gyfle i “ddod â chefnogwyr Cymru ynghyd”, yn ôl Ifan Evans.
Cafodd ‘Ni Fydd y Wal’, sengl newydd Yws Gwynedd, ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Ifan Evans brynhawn heddiw (Mai 17).
Fel un sy’n cyfaddef ei fod yn ffan pêl-droed enfawr, mae’r gân yn “gyfle i greu dipyn o ffỳs o gwmpas y tîm cenedlaethol” meddai’r cyflwynydd radio.
Bydd y gân yn cael ei lansio ddydd Gwener (Mai 21), ond gyda gwaith celf dros dro gan fod cyfle i gefnogwyr Cymru fod yn rhan o’r sengl orffenedig.
Mae Radio Cymru yn gofyn i bobol yrru lluniau o’i hunain yn gwisgo crys coch er mwyn bod yn rhan o’r gwaith celf gorffenedig, a bydd y 200 cyntaf yn derbyn baner am ddim.
Anthem
“Mae hi’n ymgyrch sydd gan Radio Cymru ar gyfer yr Ewros eleni, rydyn ni isie i wrandawyr Radio Cymru deimlo eu bod nhw’n rhan o’r ymgyrch a’r daith, a fydd gobeithio yn daith hir efo’r tîm cenedlaethol,” meddai Ifan Evans wrth golwg360.
“Mae Yws Gwynedd wedi mynd ati i sgrifennu cân a recordio’r gân ar ein cyfer ni, dw i’n gyffrous iawn i’w chwarae hi am y tro cyntaf prynhawn yma.
“Hefyd, rydyn ni’n gofyn i wrandawyr Radio Cymru fynd ati i greu ac i dynnu lluniau ar gyfer clawr y gân.
“Dyw’r gwaith celf ar gyfer y sengl heb gael ei wneud eto, felly rydyn ni’n gwahodd gwrandawyr i dynnu lluniau a bydd yna furlun yn cael ei greu wedyn gan ddefnyddio’r lluniau yna i gyd ar gyfer y clawr.
“Felly mae’n gyfle i wrandawyr Radio Cymru fod yn rhan o’r gân, mewn ffordd.
“Bydd y 200 cyntaf sy’n cysylltu, ac yn anfon lluniau mewn, yn cael baner BBC Radio Cymru. Rydyn ni just isie i bobol dynnu lluniau, unwaith maen nhw’n cael y baneri yma i dynnu lluniau, a thagio Radio Cymru.
“Rydyn ni’n galw hi’n anthem ar gyfer yr Ewros.
“Mae just yn gyfle i greu dipyn o ffỳs o gwmpas y tîm cenedlaethol, dw i’n meddwl, achos maen nhw’n haeddu fe.”
Dod â chefnogwyr ynghyd
“Ry’n ni gwybod bydd [llawer o’r] cefnogwyr ddim yna. Mae’r Wal Goch wedi bod yn gymaint o destun trafod, a phwnc trafod yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf,” ychwanegodd Ifan Evans wrth drafod pwysigrwydd dod â chefnogwyr ynghyd eleni.
“Mae e’n rhan mor bwysig o lwyddiant y tîm cenedlaethol, dw i’n meddwl byddai’r tîm rheoli a’r chwaraewyr yn cyfaddef hynny.
“Felly, mae peidio cael cefnogwyr yno am fod yn golled fawr i’r tîm.
“Rydyn ni’n gweld hynna wrth gwrs yn y canlyniadau sydd wedi bod yn ystod y tymor, nid yn unig i’r tîm cenedlaethol ond i dimau’r Uwchgynghrair ac ati.
“Mae cefnogwyr yn gwneud cymaint o wahaniaeth.
“Mi fydd y cefnogwyr yno mewn ysbryd wrth gwrs, ac mi fydden nhw yno ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn gwylio ac yn gwrando ar y radio a’r teledu.
“Byddwn ni yno, ond bydd hi’n bendant yn golled s’dim dwywaith.”
“Dyna’r gobaith efo’r ymgyrch, i ddod â chefnogwyr Cymru ynghyd fel eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n rhan o rywbeth… eu bod nhw’n teimlo falle bod nhw wedi cyfrannu i’r gân ac i’r anthem.”
Creu “buzz“
“Rydyn ni’n cofio fersiwn Candelas o Redeg i Baris yn ystod y twrnament tro diwethaf nôl yn 2016, daeth honna’n anthem… pawb yn gofyn amdani ar y radio,” ychwanegodd.
“A’r un peth rydyn ni isie nawr efo sengl Yws Gwynedd, ni isie i bobol ofyn i’w chlywed hi ar y radio. Bydd hi ar lot o raglenni, ac yn creu dipyn o buzz a hype gobeithio, a thynnu pobol ynghyd.
“Mae hi’n gân wych gyda llaw, mae hi’n catchy ofnadwy. Fydd hi’n styc yn eich pennau chi am oriau lawer, am ddyddiau,” ategodd Ifan Evans.
Cafodd y gân ei hysgrifennu gan Yws Gwynedd ar gyfer Ewro 2020, ond yn ôl Ifan Evans mae’r geiriau’n gweddu’n well eleni yn sgil y pandemig.
“Yn ddifyr iawn, mae’r geiriau ar gyfer y gân yn siwtio’n well eleni nag efallai y bydden nhw wedi gwneud petai Covid heb ddigwydd,” eglurodd.
“Mae’n sôn am gefnogwyr yn dod ynghyd, yn tynnu at ei gilydd, ac mae’r neges yna falle yn gweddu’n well eleni oherwydd Covid. Hap a damwain yw hynny.
“Mae’r neges yn y gân yn rhywbeth y gallen ni gyd uniaethu â hi, gan gofio beth sydd wedi digwydd dros y flwyddyn, deunaw mis diwethaf.”
Bydd pob gêm Cymru yn yr Ewros yn cael eu darlledu yn fyw ar Radio Cymru.