Mae “llygedyn o obaith” i’r celfyddydau yn dilyn y pandemig Covid-19, yn ôl prif weithredwr Menter Caerdydd, oedd wedi trefnu’r pymthegfed Tafwyl ddoe (dydd Sadwrn, Mai 15).

Daeth 500 o bobol ynghyd yng nghastell Caerdydd wrth i un o ddigwyddiadau prawf Llywodraeth Cymru i ddenu cynulleidfaoedd yn ôl i ddigwyddiadau gael ei gynnal – yr ŵyl gyntaf yng Nghymru ers dechrau’r pandemig.

Roedd modd i bobol fynd mewn grwpiau o bedwar neu chwech o bobol i fwynhau’r arlwy o gerddoriaeth a bwyd stryd oedd ar gael.

I’r rheiny wnaeth aros gartref, roedd modd gwylio’r cyfan ar blatfform digidol AM ac fe ddenodd yr ŵyl bobol o’r Ariannin, yr Eidal, Ffrainc, yr Almaen a Chanada ymhlith eraill fel rhan o gynulleidfa ar-lein oedd yn fwy o faint na’r llynedd.

Clwb Ifor Bach oedd yn curadu’r 17 o berfformwyr ar draws dau lwyfan ac yn eu plith roedd Ani Glass, Gwilym a Geraint Jarman.

‘Ychydig o normalrwydd eto’

Dywedodd Manon Rees-O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd:

“Ar ôl cyfnod hynod o heriol i bawb roedd yn hyfryd gweld pobl yn mwynhau ychydig o normalrwydd eto, gan ddathlu bod llygedyn o obaith ar y gorwel i’r diwydiant digwyddiadau a’r celfyddydau,” meddai Manon-Rees O’Brien, prif weithredwr Menter Caerdydd.

“Diolch i Lywodraeth Cymru am ddewis ein gŵyl ni fel un o’u digwyddiadau prawf.

“Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl heb ein cyllidwyr, noddwyr, partneriaid a chyfranwyr anhygoel – felly diolch yn fawr iddynt hwy a phawb sydd wedi ymuno â ni.

“Gan edrych ymlaen at groesawu cynulleidfa fwy i Gastell Caerdydd yn 2022!”

‘Rhan sefydledig, pwysig a phoblogaidd o galendr digwyddiadau Caerdydd’

Dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd

“Mae Tafwyl wedi datblygu yn rhan sefydledig, pwysig a phoblogaidd o galendr digwyddiadau Caerdydd,” meddai Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

“Bu croeso mawr i’r ŵyl ddigidol arloesol llynedd ond oes dim yn curo cerddoriaeth fyw ac rwyf wrth fy modd bod y Cyngor yn medru cefnogi Menter Caerdydd yn gwireddu hyn fel rhan o’r Cynllun Digwyddiadau Prawf.

“Mae Caerdydd yn enwog yn fydeang am groesawu digwyddiadau cerddoriaeth, chwaraeon, diwylliant a digwyddiadau mawr eraill o bwys rhyngwladol sydd yn dod â budd economaidd aruthrol i’r ddinas yn ogystal â hwb i broffil Cymru.

“Gan i ni orfod cau dros gyfnod y pandemig, mae’n allweddol ein bod yn cael ein cefnogi i adeiladu ar ddigwyddiadau prawf megis Tafwyl er mwyn ail-agor y sector yn gyflym a diogel.

“Rwyf yn edrych ymlaen at ddychweliad diogel amserlen brysur o ddigwyddiadau yn y ddinas y dyfodol agos, at groesawu ymwelwyr i’n dinas wych ac at deimlo cynnwrf byrlymus ar strydoedd Caerdydd unwaith eto”

Dywed Ani Glass ei bod yn “bleser pur” cael perfformio.

“Mi oedd yn fraint pur cael rhannu’r profiad arbennig yma gyda’r gynulleidfa,” meddai.

“Dyddiau fel hyn sy’n atgyfnerthu fy ffydd yng ngallu cerddoriaeth i ddod â phobol at ei gilydd.

“Diolch i Tafwyl am y cyfle!”

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill roedd lansiad y podlediad LHDT+ cyntaf yn y Gymraeg, ‘Esgusodwch fi?’, sgwrs banel am hyder corff wedi’i drefnu gan Mari Gwenllïan HIWTI; a sgwrs banel am hunaniaeth a chymreictod dan arweiniad Seren Jones.

Bydd modd gwylio holl ddigwyddiadau’r ŵyl ar alw trwy gyfrwng platfform digidol AM, a bydd cyfle i fwynhau’r uchafbwyntiau ar S4C ar nos Iau 27 Mai am 9yh.