Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth Frantisek ‘Frankie’ Morris o Landegfan ym Môn.

Mae dyn a dynes hefyd wedi’u harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar Fai 2 yn dilyn rêf yn ardal Waunfawr.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n dwyn achos yn erbyn seiclwr roedden nhw’n awyddus i siarad â fe.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth o’r newydd, gan gyhoeddi lluniau camerâu cylch-cyfyng newydd ac maen nhw’n dweud eu bod nhw am siarad â’r gyrwyr yn y lluniau.

Mae’r ffordd rhwng Pont Felin, Pentir tuag at Waen Wen ynghau am gyfnod amhenodol wrth i’r ymchwiliad barhau, ac mae teithwyr a’r cyhoedd yn cael eu cynghori i gadw draw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Diflaniad llanc: Heddlu’n apelio ar bobl oedd mewn rêf i gysylltu â nhw

Frantisek Morris, sy’n cael ei adnabod fel Frankie, wedi cael ei weld diwethaf mewn rêf mewn hen chwarel yn Waunfawr

Apêl am wybodaeth am lanc 18 oed sydd ar goll o ardal Bangor

Cafodd Frantisek (neu Frankie) Morris ei weld ddiwethaf yn cerdded ym Mhentir, ger Bangor