Mae arweinwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi gohirio cynlluniau dadleuol i uno cyrff llywodraethu dwy ysgol, a chael un pennaeth yn gyfrifol am y ddwy ysgol.

Fe wnaeth y Cyngor lansio cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn gynharach y mis yma ar y cynnig i “ffedereiddio” dwy ysgol gynradd, Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog, yng ngogledd y sir.

Fe wnaeth corff llywodraeth Ysgol Rhys Prichard ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau, gan ddweud bod y cynnig yn ceisio arbed arian ond nad oedd er lles y disgyblion.

Dywedon nhw hefyd fod staff yn amheus iawn, a bod gan yr ysgol berthynas waith agos eisoes ag Ysgol Llangadog.

Dywedodd Dafydd Morgan, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llangadog, fod yr ymgynghoriad ynghylch ffedereiddio yn dipyn o syndod.

Adroddiad

Dywedodd adroddiad gerbron y Cabinet ddoe (dydd Llun, Ebrill 29) mai’r adborth gan lywodraethwyr a staff oedd nad oedd digon o drafodaethau anffurfiol cyn lansio’r ymgynghoriad.

Roedd yr adroddiad yn argymell rhoi’r gorau i’r ymgynghoriad, diweddaru strategaeth ffedereiddio’r Cyngor, ac adolygu’r broses ar gyfer ffederasiynau dan arweiniad y Cyngor.

Cafodd yr argymhellion hyn eu cymeradwyo.

Bydd gweithgor o lywodraethwyr yn cael ei sefydlu, a bydd cyfarfodydd â staff o’r ddwy ysgol.

‘Amgylchedd dysgu cynaliadwy’

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, ei fod yn credu y byddai ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog yn fuddiol ac y byddai’n creu “amgylchedd dysgu cynaliadwy” yn yr ardal.

Dywedodd y byddai rhagor o drafodaethau anffurfiol yn cael eu cynnal â’r ddwy ysgol, ac y byddai strategaeth ffedereiddio’r Cyngor yn cael ei diweddaru.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, fod £9m wedi’i fuddsoddi yn y ddwy ysgol dros y tair blynedd diwethaf, a bod y Cyngor dan arweiniad Plaid ac Annibynnol wedi ymroi i safonau addysg da yn Nyffryn Tywi uchaf.

Roedd Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, hefyd wedi mynegi pryder ynghylch y cynnig i ffedereiddio.

“Ar hyn o bryd, mae’r ddwy ysgol yn gwneud yn dda iawn, ac wedi elwa ar fuddsoddiad ariannol gan yr awdurdod lleol,” meddai.

“Ar ôl ymweld â’r ddwy ysgol, gallaf dystio bod y cyfleusterau yn y ddwy ysgol heb eu hail.

“Mae pryder y byddai ffedereiddio’n rhoi pwysau ychwanegol ar aelodau staff sydd eisoes dan bwysau eithriadol.”