Mae’r Gweinidog newydd tros Addysg a’r Iaith wedi addo y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn yr ardaloedd mwya’ Cymraeg.

Fe ddywedodd Jeremy Miles fod angen gweithredu “er mwyn sicrhau bod gyda ni gymunedau Cymraeg sy’n ffynnu yn y dyfodol a bod pobol yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau”.

Ar raglen radio Dewi Llwyd ar Radio Cymru, fe gadarnhaodd fod y Llywodraeth yn ystyried adroddiad gan yr academydd Simon Brooks am broblem ailgartrefi.

Mae hi’n broblem gymhleth, meddai, a sawl ffactor gwahanol yn effeithio ar ei gilydd – fe fyddai angen edrych ar y “darlun cyflawn” i ddod o hyd i atebion.

Mae’r broblem yn ddwysach yn sgil y pandemig wrth i filoedd o bobol symud o’r dinasoedd i fyw neu i brynu tai gwyliau – un o’r enghreifftiau mwya’ dadleuol yw bwthyn yn Uwchmynydd ger Ynys Enlli sydd ar werth ar ocsiwn gyda phris targed o £500,000.