Mae’r darlun enwog o Fenis yn ganolbwynt i arddangosfa tirluniau Cymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol…

 Mae campwaith yr artist Canaletto, ‘Venezia: Campo San Vidal e Santa Maria della Carità’ – neu ‘Iard y Torrwyr Cerrig’ – ar fenthyg i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar hyn o bryd.

Mae’r benthyciad yma ac arddangosfa ehangach ‘Delfryd a Diwydiant’ yn y Llyfrgell yn cyd-fynd â phen-blwydd y National Gallery yn Llundain yn 200 mlwydd oed.