Portread o Sion Bradley
Mae un o bêl-droedwyr tîm Caernarfon wedi bod yn cael tymor arbennig, ac eisoes wedi sgorio gôl dros ei wlad yn erbyn Lloegr eleni. A’r nod nesaf iddo yw helpu ei glwb i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Ar ôl bod yn sownd ar y fainc ac yn eilydd segur yn nhîm Cymru C y llynedd, roedd Sion Bradley yn benderfynol o wneud ei farc ac ennill ei le yn y gêm gyfeillgar flynyddol yn erbyn Lloegr y tro hwn.
Heb os, gwnaeth hynny gan sgorio unig gôl y gêm gyda chic rydd fendigedig wnaeth sicrhau buddugoliaeth i Gymru dros yr hen elyn yn Llanelli.
Mae Sion wedi bod yn chwarae i Gaernarfon ers saith mlynedd, ond dechreuodd popeth ym Mlaenau Ffestiniog.
Wedi’i fagu dafliad carreg oddi wrth un o gaeau pêl-droed mwyaf godidog Cymru, Cae Clyd yn y Manod – cae gyrhaeddodd restr o 50 cae pêl-droed gorau gwledydd Prydain yn 2022 – dechreuodd gicio pêl yn blentyn ifanc.
“O hyd pan oeddwn i o gwmpas tŷ, roedd yna bêl gen i. Fe wnaeth mam a dad banio fo’n diwedd, ac roedd rhaid i fi chwarae efo balŵns,” cofia Sion sy’n 26 oed ac yn dal i fyw yn y Manod.
“Ond roedd y diddordeb yna ers oeddwn i’n fabi bach. Dw i ddim yn gwybod o lle achos doedd dad na mam yn chwarae pêl-droed. Ond mae o’n rhywbeth mae plant i gyd yn chwarae.
“Pan oeddwn i’n yr ysgol, roeddwn i ychydig bach yn fach, a pan ti’n fach mae o’n gwneud o ychydig bach anoddach!
“Ond gefais i spurt pan oedden ni’n gadael ysgol. Mae [chwarae pêl-droed] yn rhywbeth mae pob plentyn eisiau ei wneud dw i’n meddwl, dw i wir yn mwynhau o.”
Bu’n chwarae i dimau ieuenctid Blaenau o dan 16 oed, ac ar y pryd roedd hi’n bosib chwarae i dimau academis pêl-droed hefyd. Treuliodd gyfnod gydag Academi Porthmadog a’r Bala, cyn gwneud tymor neu ddau ym Mangor.
Ers 2018, mae’n chwarae ei bêl-droed ar yr asgell i dîm Caernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae Sion wedi cael tymor dylanwadol yn y Cymru Premier, gan wneud digon o argraff i ddechrau dros Cymru C yn erbyn Lloegr ym mis Mawrth.
“Roedd o’n brofiad da, balchder mawr, dim bwys ar ba lefel, i roi’r crys coch Cymru yna ymlaen,” meddai Sion.
“Roeddwn i’n falch iawn, ac efo’r teulu i gyd yna’n gwylio.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yma pan dw i wedi bod yn chwarae yn y gynghrair yma rŵan, mae o wedi bod yng nghefn fy meddwl i mai hwnna oedd y cam oeddwn i wir eisiau ei gymryd – i gynrychioli Cymru fel yna.
“Flwyddyn yma, roedd o’n sbesial.
“Roedd pawb wedi dod i’n ngwylio i flwyddyn diwethaf hefyd yn Altringham, ochrau Manceinion.
“Ddaeth yna lwyth o ffrindiau a theulu i wylio, ac fe wnaeth peidio dod ymlaen wneud i fi fod eisiau gweithio’n galetach at flwyddyn yma i hwnna fod y nod – i drio chwarae rhan yn y gêm.”
Dim pawb sy’n gallu dweud eu bod nhw wedi sgorio gôl i guro gêm yn erbyn Lloegr, ond dyna’r union wnaeth Sion eiliadau cyn hanner amser yn Llanelli.
“Roedd hi bron iawn yn hanner amser, ac fe wnaeth un o’r hogiau ddweud wrtha i i jyst trio hi.
“Dw i wedi sgorio ambell un ohonyn nhw flwyddyn yma i Gaernarfon, ac fe wnes i feddwl ‘Pam ddim?’
“Unwaith wnaeth hi adael fy nhroed i, roeddwn i’n gwybod lle’r oedd hi’n mynd.
“Dw i’n un sydd byth wedi bod yn nerfus am gemau, jyst fi fel person, dw i’n meddwl. Dw i ddim fel arfer yn teimlo pwysau pan dw i’n chwarae.
“Mae o’n neis bod yn nerfus weithiau, ond dw i ddim yn teimlo felly’n aml.”
Nod mawr nesaf Sion ydy cymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewrop. Bydd gan Gaernarfon gyfle euraidd i wneud hynny ddydd Sadwrn yma, wrth iddyn nhw wynebu Penybont gartref ar gae’r Oval yn rownd derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.
“Rydyn ni wedi bod yn agos dwy neu dair gwaith efo Caernarfon, felly rhywbeth fyswn i’n licio’i wneud go-iawn ydy chwarae yn yr Europa League.
“Dw i wedi bod yng Nghaernarfon rŵan ers saith mlynedd, a dw i wir yn mwynhau yna. Mae o’n un o’r clybiau sydd efo’r cefnogwyr gorau yng Nghymru, fyswn i’n feddwl.
“Pan ti’n stryglo mewn gêm, a ti’n clywed nhw’n canu tu ôl i’r gôl, mae o’n annog chdi ymlaen.”
Pan nad yw’n brysur yn chwarae neu’n hyfforddi pêl-droed, mae Sion a’i dad yn mwynhau gwylio Everton ac yn mynd i’r gemau yn Lerpwl pan gawn nhw gyfle.
“Mae dad yn cefnogi Everton ac mae mam yn cefnogi Manchester City, ond gefais i’n mrainwasho pan oeddwn i’n ifanc iawn i gefnogi’r un tîm â dad – ddylwn i wedi mynd efo mam! Ond doedd gen i ddim llawer o ddewis.”
O ddydd i ddydd, mae Sion wedi dilyn ôl troed ei fam ac yn hyfforddwr nofio yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog.
“Dw i’n mwynhau dysgu. Pan ti’n cael y plant i nofio a gweld nhw’n hapus yn nofio, mae yna rywbeth reit braf ynddy fo, gallu eu gweld nhw’n llwyddo,” meddai Sion, aeth i Goleg Menai ym Mangor i astudio Ffitrwydd a Hyfforddi am ddwy flynedd ar ôl gorffen yn yr ysgol.
“Doeddwn i ddim y clyfra yn yr ysgol. Unwaith oeddet ti’n 16 oed, dim bwys os oeddet ti dal yn yr ysgol, roeddet ti’n gallu dechrau gweithio yn y pwll nofio.
“Pan ti’n 16, roedd o’n bres bach iawn ar ôl gadael ysgol felly fe wnes i wneud hynna yn yr haf. Digwydd bod, ddaeth yna gytundeb fyny yn Port yn syth ar ôl i fi adael Coleg felly fe wnes i ddigwydd trio amdano fo a dyna lle dw i wedi bod ers hynny.”
O bryd i’w gilydd, mae’n mwynhau beicio ar feic trydan ei dad, sy’n feiciwr brwd, fyny at Argae Stwlan dan gopa’r Moelwyn Mawr, ac yn nofio’n wythnosol i baratoi at gemau pêl-droed.
“Hyfforddi, pêl-droed, mynd i redeg bob hyn a hyn – dim ond achos fy mod i’n gorfod, dim achos fy mod i’n licio gwneud!
“Mae fy mywyd i’n troi o gwmpas pêl-droed…
“Mae o gyd werth o pan ti’n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, a chael cyfle i gynrychioli dy wlad.”
Caernarfon v Penybont yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 2.45 bnawn Sadwrn