Focus Wales yw’r digwyddiad blynyddol ar gyfer y diwydiant cerddorol sydd yn cael ei gynnal o amgylch amryw ganolfannau yn Wrecsam. Llynedd bues yno hefo’r sioe radio (nos Lun, Radio Cymru) yn sgwrsio hefo gwahanol artistiaid. Eleni, ar y cyd â phroject Gorwelion y BBC, ryda ni yno i recordio rhai o’r artistiaid Cymraeg sydd yn perfformio ar lwyfan Hwb.