Ga i fynd â chi’n ôl i 2022 am eiliad, un o’r adegau mwyaf tymhestlog yng ngwleidyddiaeth ddiweddar gwledydd Prydain. Roedd Boris newydd adael ei swydd ar ôl misoedd dan bwysau, dim ond i gael ei olynu gan Liz Truss. Roedd galwadau lu gan y gwrthbleidiau am etholiad newydd, ond nis cafwyd. Dydi hynny fawr o syndod, achos dydi newid Prif Weinidog ynghanol tymor seneddol ddim yn ddigynsail. Dyna ddigwyddodd gyda Gordon Brown, Theresa May a Boris ei hun. Hefyd felly Nicola Sturgeon a phob un o brif