Mae’r Blaid Lafur yn Aberconwy wedi cyhoeddi ar eu gwefan nad oes ganddyn nhw hyder yn Keir Starmer fel arweinydd.

Mae’n adrodd bod cyfarfod o aelodau’r etholaeth wedi pleidleisio o 24 i 2 dros gynnig o ddiffyg hyder yr wythnos yma.

Mae’r cyhoeddiad yn mynd ymlaen i ddweud “gobeithiwn y bydd aelodau Llafur eraill ledled y Deyrnas Unedig yn helpu achub y blaid rhag yr arweinyddiaeth drychinebus yma”.

Yn etholiad y Senedd yr wythnos ddiwethaf, daeth eu hymgeisydd, Dawn McGuinness yn drydydd gydag ychydig o dan 6,000 o bleidleisiau. Cafodd tua 500 o bleidleisiau yn llai na Phlaid Cymru a bron i 4,000 yn llai na Janet Finch-Saunders a gadwodd y sedd i’r Toriad gyda mwyafrif mwy.

Fel mae eu gwefan yn nodi, mae’n debygol mai etholaeth Aberconwy yw’r gyntaf yng Nghymru i basio pleidlais o ddiffyg hyder o’r fath yn Keir Starmer.

O farnu oddi wrth y sylw helaeth a roddir i Mark Drakeford ar y wefan fodd bynnag, nid oes dim i awgrymu unrhyw amheuon tebyg am arweinydd Llafur Cymru.