Mae’r arolwg barn cyntaf ers yr etholiadau’r wythnos ddiwethaf yn awgrymu bod poblogrwydd y Torïaid wedi dal i gynyddu yn Lloegr.
Yn ôl yr arolwg o 14,000 o bobl a wnaed ar ran papur newydd y Telegraph, gallai’r Toriaid ennill 23 yn rhagor o etholaethau seneddol yng nghanolbarth a gogledd Lloegr pe bai etholiad buan. Byddai hyn yn codi mwyafrif Boris Johnson yn San Steffan i 122.
Mae’r arolwg hefyd yn tanlinellu’r gwahaniaeth cynyddol rhwng gwleidyddiaeth Lloegr ar y naill law, a Chymru a’r Alban ar y llaw arall.
Dywedodd Martin Baxter, prif weithredwr Electoral Calculus, un o’r sefydliadau a weithredodd yr arolwg dros y ddeuddydd ddiwethaf, fod pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Lafur yn gyffredinol.
“Mae llithriad pellach wedi digwydd yn y gefnogaeth i Lafur ers yr etholiadau’r wythnos ddiwethaf,” meddai.
“Mae’r Toriaid bellach fwy na 10 pwynt ar y blaen i Lafur, a allai olygu mwyafrif ysgubol. Mae gwrthbleidiau rhanedig gyda’r pleidleisiau wedi eu rhannu rhwng Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion yn ei gwneud hi’n hawdd i’r Torïaid ennill.
“Dim ond yng Nghymru a’r Alban, lle nad yw’r Ceidwadwyr y blaid fwyaf, nad yw eu fformiwla llwyddiannus yn gweithio.”
Cynyddu mae’r dyfalu y gallai Boris Johnson fynd am etholiad buan ym mis Mai 2023, ar ôl Araith y Frenhines gynnwys deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn haws i Brif Weinidog alw etholiad heb ddibynnu ar bleidlais yn y senedd.