Mae Matt Hancock wedi gwrthod dweud a oedd bwriad Boris Johnson i deithio i India wedi dylanwadu ar amseru’r penderfyniad i wahardd teithio yno.
Mae Llywodraeth Prydain dan y lach yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 sy’n gysylltiedig ag amrywiolyn India, am nad oedden nhw wedi atal teithio rhwng gwledydd Prydain ac India ar unwaith.
Roedd disgwyl i Boris Johnson fynd yno cyn gwneud tro pedol a gohirio’r ymweliad ganol mis Ebrill, cyn i Lywodraeth Prydain ychwanegu India at y “rhestr goch” yn sgil sefyllfa’r feirws yno, sydd bellach allan o reolaeth.
“Cafodd yr amrywiolyn hwn ei nodi fel amrywiolyn dan ymchwiliad ar ôl i ni roi India ar y rhestr goch,” meddai Ysgrifennydd San Steffan wrth Sky News.
“Cafodd y penderfyniad i roi India ar y rhestr goch ei wneud oherwydd y gyfradd bositif uchel ymhlith pobol oedd yn dod o India ac wrth edrych ar epi-gromlin India.
“Pan wnaethon ni roi Pacistan ar y rhestr goch ar ddechrau Ebrill, roedd hynny oherwydd y gyfran o bobol oedd yn profi’n bositif oedd yn dod i mewn o Bacistan dair gwaith yn uwch na’r gyfradd oedd yn dod o India, a dim ond ar ôl i ni roi India ar y rhestr goch aeth yr amrywiolyn hwn dan ymchwiliad, ac yn gynharach y mis hwn, fe ddaeth yn amrywiolyn oedd yn destun pryder.”
“Rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau hyn ar sail y dystiolaeth,” meddai wedyn wrth ateb cwestiwn am y cysylltiad rhwng y gwaharddiad ac ymweliad Boris Johnson.