Mae o leiaf 26 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn y cyrchoedd awyr diweddaraf gan Israel wrth iddyn nhw ddymchwel tri adeilad.

Yn eu plith roedd deg o fenywod ac wyth o blant, a chafodd 50 yn rhagor o bobol eu hanafu.

Dyma’r ymosodiad gwaethaf ers i’r brwydro ddechrau tua wythnos yn ôl.

Mae timau achub yn ceisio tynnu’r cyrff a phobol sydd wedi goroesi allan o’r rwbel.

Daw hyn ar ôl i Israel ddweud eu bod nhw wedi bomio cartref un o brif arweinwyr Hamas mewn ymosodiad ar wahân – y trydydd ymosodiad o’r math yma dros y ddau ddiwrnod diwethaf wrth iddyn nhw dargedu cartrefi Yehiyeh Sinwar, yr arweinydd Hamas mwyaf blaenllaw, ei frawd Muhammad ac un arall o aelodau blaenllaw’r mudiad, Khalil al-Hayeh.

Mae un o ddiplomyddion yr Unol Daleithiau bellach wedi cyrraedd ardal y frwydr mewn ymgais i sicrhau cadoediad wrth i drafodaethau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddechrau.

Yr ymosodiadau

Daeth cadarnhad o’r ymosodiad ar gartrefi Yehiyeh Sinwar a’i frawd mewn neges ar radio’r fyddin.

Mae aelodau mwyaf blaenllaw Hamas bellach yn cuddio yn Gaza ac mae hi’n annhebygol fod yr un ohonyn nhw gartref adeg yr ymosodiadau, ac mae prif arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh yn rhannu ei amser rhwng Twrci a Qatar.

Mae Hamas a gwrthryfelwyr jihadaidd yn dweud bod 20 o ymladdwyr wedi’u lladd ers dechrau’r frwydr ddydd Llun diwethaf (Mai 10), ond mae Israel yn mynnu bod y nifer yn uwch o lawer.

Mae o leiaf 174 o Balestiniaid wedi’u lladd yn Gaza, gan gynnwys 47 o blant a 29 o fenywod, ac mae mwy na 1,200 o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae wyth o bobol o Israel wedi’u lladd, gan gynnwys bachgen pump oed a milwr.

Mae Hamas a gwrthryfelwyr eraill wedi tanio tua 2,900 o rocedi i mewn i Israel ers dechrau’r wythnos yn dilyn bygythiad i safle sanctaidd yn Jerwsalem ac i symud dwsinau o deuluoedd Palesteinaidd o’u cartrefi ger y safle.

Protestiadau yng Nghymru

Mae pobol ledled Cymru wedi bod yn ymgynnull dros y penwythnos yn sgil y sefyllfa.

Roedd ralïau mewn nifer o drefi a dinasoedd, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Machynlleth, Wrecsam a’r Fenni.