Fe fydd modd i bobol gael peint dan do mewn tafarn yng Nghymru o fory (dydd Llun, Mai 17) yn dilyn y llacio diweddaraf ar gyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Dydy pobol ddim wedi gallu yfed y tu fewn i adeilad tafarn ers Rhagfyr 4, ond fe fydd y diwydiant lletygarwch yn cael ei ailagor yn raddol, sy’n golygu y bydd modd i sinemâu a llety i dwristiaid agor eto, ynghyd â gweini dan do ar safleoedd lletygarwch.

Bu’n rhaid i fusnesau lletygarwch gau, ac eithrio’r rhai sy’n cynnig gwasanaeth tecawê, pan aeth Cymru i gyfnod clo newydd ar Ragfyr 20.

Fel rhan o’r cyfyngiadau diweddaraf, bydd hyd at 30 o bobol yn gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau dan do sydd wedi cael eu trefnu, a bydd modd i hyd at 50 o bobol ymgynnull mewn digwyddiadau awyr agored.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd modd i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gymorth er mwyn talu unrhyw gostau.

Fe fu’n rhaid gohirio llacio rhai o’r rheolau oedd i fod i gael eu cyflwyno yr wythnos hon, a hynny o ganlyniad i amrywiolyn India, ond fe allai rhagor o lacio ddigwydd yr wythnos nesaf pe bai’r sefyllfa dan reolaeth erbyn hynny.

Mae 26 o achosion Covid-19 yng Nghymru yn gysylltiedig â’r amrywiolyn hwnnw, a phob un o’r rheiny’n ymwneud â theithiau tramor.

Er bod cyfyngiadau Llywodraeth Prydain yn galluogi pobol i fynd dramor o ddydd Llun, mae Llywodraeth Cymru’n cynghori pobol na ddylen nhw fynd dramor tan 2022.

Dyma grynodeb o’r llacio diweddaraf:

  • Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor – gall chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) archebu
  • Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn
  • Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad;
  • Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau;
  • Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas a the angladd.