Dileu protocol Gogledd Iwerddon fydd prif flaenoriaeth arweinydd newydd y DUP dros y misoedd nesaf.

Daw sylwadau Edwin Poots mewn cyfweliad â Sunday Life wrth iddo olynu Arlene Foster, prif weinidog Gogledd Iwerddon ac arweinydd y blaid.

Mae disgwyl i Poots gynnal trafodaethau â Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a Micheal Martin, Taoiseach Iwerddon, o fewn 90 diwrnod ar ôl dechrau yn y swydd, a hynny er mwyn datrys y trefniadau masnach ôl-Brexit.

Mae’n dweud na fydd e’n mynd i gyfarfodydd gweinidogol de-gogledd hyd nes y bydd y sefyllfa wedi cael ei datrys.

Fe wnaeth e guro Syr Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP yn San Steffan, yn y ras arweinyddol.

Cyhoeddodd Arlene Foster fis diwethaf ei bod hi’n camu o’r neilltu, ond dydy hi ddim yn glir o hyd pryd y bydd hi’n gadael ei swydd yn brif weinidog.

“Y protocol yw’r mater mwyaf o bell ffordd,” meddai yn ystod y cyfweliad.

“I fi, nid mater unoliaethol mo hwn.

“Mater Gogledd Iwerddon yw e.

“Ar ddiwedd y cyfnod o ras, rydyn ni’n edrych ar gychwyn 15,000 o wiriadau ar nwyddau sy’n dod i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr.

“O ran nwyddau’r archfarchnad a bwyd sy’n mynd i’ch siop gornel yn y pen draw, mae hynny’n mynd i effeithio pob cwsmer yng Ngogledd Iwerddon.

“Daw 98% o’n cyffuriau a’n dyfeisiau meddygol o Brydain Fawr.

“Bydd y rheiny yn destun gwiriadau ar ôl y cyfnod craffu a phroblemau wrth ddod â phethau i mewn, gan gynnwys cyffuriau canser.

“Mae hi ond yn gwbl annerbyniol y gallai ein gwasanaeth iechyd gael ei daro â chostau ychwanegol ac yn wir, â pheidio â chael deunyddiau arbennig sydd eu hangen o ganlyniad i hynny.

“Mae angen i ni ddod o hyd i ddatrysiad sy’n goresgyn hyn i gyd.

“Mae angen arnom i’r Undeb Ewropeaidd gydnabod nad yw’r protocol yn addas at ei bwrpas.

“Dydy e ddim yn gweithio ac felly, rhaid i ni fynd yn ôl i’r dechrau.

“Mae gyda ni fwy o wiriadau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon na holl ffin ddwyreiniol yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn fy marn i, ddylai nwyddau sy’n aros yn y Deyrnas Unedig ddim cael gwiriadau. Dyna fy nod yn y pen draw.”

Her gyfreithiol

Dywed Edwin Poots y gallai gyflwyno her gyfreithiol pe na bai’r sefyllfa’n cael ei datrys yn ystod yr wythnosau i ddod.

Byddai hwnnw’n achos gwahanol i’r un sydd ar y gweill yn yr Uchel Lys yn enw unoliaethwyr.

Mae’n dweud y bydd ymgais i “ddileu” rhannau o’r protocol lle mae amheuaeth am y canlyniadau, ond ei fod e’n hapus i weithio er mwyn gwarchod y farchnad sengl ond nad yw hynny’n cynnwys materion yn ymwneud â ffin Gogledd Iwerddon.

DUP yn ethol arweinydd newydd

Edwin Poots yn addo gorchfygu trefniadau Brexit Gogledd Iwerddon