Mae Ysgrifennydd Cymru’n dweud bod y Ceidwadwyr eisoes datganoli pwerau i Gymru gyfan, nid dim ond i’w “cydweithwyr gwleidyddol yng Nghaerdydd”.

Daw sylwadau Simon Hart ar raglen Sunday Politics Wales y BBC yn dilyn canlyniadau etholiadau’r Senedd sy’n awgrymu bod pobol eisiau mwy o bwerau i Gymru, ond nid annibyniaeth.

Ac yn ôl Simon Hart, mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru – ond mae’n dweud y bydd y pwerau hynny’n mynd i awdurdodau lleol ac nid i’r Senedd.

“Rydyn ni’n gwneud cryn ymdrech ar hyn o bryd i hysbysu awdurdodau lleol, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau’n lleol, rhanddeiliaid ym mhob cornel o Gymru am ddewisiadau buddsoddi ac ati sy’n ei gwneud hi’n haws i’n cymunedau greu swyddi,” meddai.

“Dw i’n credu mai’r gŵyn ynghylch datganoli, os yw hynny’n gywir ar hyn o bryd, yw na ddylai’r cyfan gael ei ganoli yng Nghaerdydd.

“Dydy datganoli ddim yn fater syml o basio’r holl bwerau sy’n bod i Gaerdydd ond yn hytrach, yn fater o ymrwymo cymunedau lleol.

“Felly dwi’n ei chael hi ychydig yn eironig mai’r bobol sy’n gwneud y sŵn mwyaf ynghylch hyn yw ein cydweithwyr gwleidyddol yng Nghaerdydd.

“Mewn synnwyr go iawn o ddatganoli, rydyn ni’n ymrwymo pobol ledled Cymru wrth wneud penderfyniadau, a rhaid bod hynny’n beth da.”