Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na dwy filiwn o bobol wedi cael brechlyn Covid-19.
Mae bron i dair miliwn dos wedi cael eu rhoi dros gyfnod o chwe mis, sy’n golygu bod 80% o holl oedolion Cymru wedi cael brechlyn cyntaf a thraean o oedolion wedi cael ail frechlyn.
Yn ôl Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, “mae hwn yn gyflawniad gwych mewn cyfnod mor fyr o amser”.
“Rydw i’n eithriadol falch a diolchgar i’r miloedd o bobol – staff y Gwasanaeth Iechyd, personel y fyddin a gwirfoddolwyr – sydd wedi gweithio mor galed ledled y wlad er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma.
“Mae brechu’n gwneud byd o wahaniaeth i lwybr y pandemig.
“Mae pob dos sy’n cael ei roi yn fuddugoliaeth fechan yn erbyn y feirws difrifol yma.”
‘Carreg filltir bwysig arall’
Yn ôl Dr Gill Richardson, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru ar gyfer brechiadau, mae hyn yn “garreg filltir bwysig arall’.
“Mae’r ystadegau heddiw’n dangos bod Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall eto drwy ymdrechion gwych ein rhaglen frechu, ein staff gofal iechyd a’r cyhoedd,” meddai.
“Rydyn ni’n parhau i arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig wrth geisio brechu cymaint ag y bo modd o’r boblogaeth mor gyflym a diogel â phosibl er mwyn helpu i roi diwedd ar y pandemig yma.
“Mae ein holl dimau brechu ledled Cymru yn destun balchder i mi.
“Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi golygu bod 95% o’r rheini sydd yn y grwpiau mwyaf agored i niwed wedi cael eu dos cyntaf o leiaf, ac rydyn ni nawr yn gwneud cynnydd gwych wrth symud drwy’r grwpiau oedran iau.
“Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y brechiad wedi bod yn llawer uwch nag a ragwelwyd ond mae wir yn bwysig pan gewch eich galw am eich apwyntiad – boed ar gyfer y dos cyntaf neu’r ail ddos – eich bod yn mynd.
“Mae pob brechiad wir yn cyfrif.”