Mae 57 o wledydd sy’n rhan o’r Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd wedi dod ynghyd ar gyfer Uwchgynhadledd frys i drafod y gwrthdaro yn Gaza.

Dyma’r cam mawr cyntaf gan wledydd y Dwyrain Canol wrth iddyn geisio datrys yr anghydfod rhwng Israel a Phalesteina.

Tra bod y Gynghrair Arabaidd a sefydliadau fel y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd o’r farn y dylai Palesteina fod yn annibynnol, mae Israel wedi dod i gytundebau â sawl un o’r gwledydd hynny yn ddiweddar.

O ganlyniad i hyn a phryderon ynghylch Hamas, dydyn nhw ddim wedi ymateb yn llafar iawn i’r gwrthdaro diweddaraf fel y gwnaethon nhw yn y gorffennol.

Yn ôl Mohammad Haneef Atmar, gweinidog tramor Affganistan, “helynt pobol Palesteina yw briw gwaedlyd y byd Islamaidd heddiw”.

Ac mae Riad Malki, gweinidog tramor Palesteina wedi cyhuddo Israel o “ymosodiadau llwfr”, gan rybuddio bod Palesteina yn wynebu cael eu “meddiannu yn y tymor hir” ac yn wynebu “troseddau yn erbyn pobol Palesteina heb ganlyniadau”.

Does gan Awdurdod Palesteina ddim rheolaeth dros Hamas na Llain Gaza.

Mae Twrci hefyd wedi beirniadu Israel gan ddweud mai nhw “yn unig sy’n gyfrifol am y cynnydd diweddar yn Nwyrain Jerwsalem, y Lan Orllewinol a Gaza”, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi “anwybyddu” eu rhybuddion yr wythnos ddiwethaf.

Mae Iran, yn y cyfamser, yn cyhuddo Israel o “hil-laddiad a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth” gan ddweud bod gan bobol Palesteina “yr hawl yn llwyr i amddiffyn eu hunain”.

Ymateb cymysg

Ymateb cymysg sydd wedi bod ymhlith y gwledydd Arabaidd a Gwlff Persia i’r sefyllfa.

Yn Qatar, fe fu miloedd o bobol y gwrando ar araith Ismail Haniyeh, prif arweinydd Hamas sy’n rhannu ei amser rhwng Twrci a Qatar, dwy wlad sy’n cefnogi Hamas ynghyd ag Iran.

Mae’n dweud na fydd Palesteina yn derbyn unrhyw beth llai na gwladwriaeth Palesteina a Jerwsalem yn brifddinas.

Mae Twrci wedi beirniadu gwledydd y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd sydd wedi dod i gytundeb ag Israel yn ddiweddar, ac wedi eu cyhuddo o “golli eu cwmpawd moesol wrth leisio’u cefnogaeth i Israel”.

“Os oes yna hanner datganiadau oddi mewn i’n teulu ein hunain, sut allen ni feirniadu eraill nad ydyn nhw’n cymryd ein geiriau o ddifri?”