Mae mwy na 1,200 o bobol wedi dod ynghyd yn Barcelona heddiw (dydd Sul, Mai 16) i alw am ffurfio llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth.

Daw hyn ar ôl i bleidiau o blaid annibyniaeth ennill 52% o bleidleisiau yn yr etholiad fis Chwefror.

Cafodd y digwyddiad heddiw ei drefnu gan ANC, sef Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia, wrth i’r arweinydd Elisenda Paluzie gyhoeddi ‘wltimatwm’ i’r pleidiau Esquerra (ERC) a Junts per Catalunya na fydd yn parhau i’w cefnogi nhw os ydyn nhw’n gorfodi etholiad arall neu’n ffurfio llywodraeth heb gynllun ar gyfer y dyfodol.

“Rydym wedi colli amynedd a hyder,” meddai David Férnandez, dirprwy lywydd ANC mewn rali wrth i’r dorf lafarganu “undod” a “digon yw digon”.

Yn ystod y rali, galwodd Mònica Roca, llywydd Siambr Fasnach Barcelona, am lywodraeth “benderfynol” ond llywodraeth “gref a sefydlog” hefyd i arwain yr adferiad ôl-Covid.

Siaradodd hi o blaid annibyniaeth, gan ddweud bod nifer o astudiaethau sy’n dweud bod annibyniaeth yn ddichonadwy yn economaidd.

Trafodaethau

Fe fu trafodaethau ar y gweill ers dros dri mis er mwyn ceisio ffurfio llywodraeth yng Nghatalwnia.

Cafodd yr etholiad cyffredinol ei gynnal ar Chwefror 14.

Daeth y trafodaethau rhwng ERC ac En Comú Podem (ECP) i ben ddiwedd yr wythnos, gyda’r ECP yn dweud nad ydyn nhw am weld Junts per Catalunya yn rhan o’r drefn newydd.

Roedd hyn ar ôl i Esquerra, Junts per Catalunya a CUP ddod i gytundeb ddydd Mercher (Mai 12) i osgoi etholiad newydd.

Mae gan y Senedd tan Fai 26 i ddod o hyd i arweinydd newydd i’r llywodraeth.