Mae ymchwiliad ar y gweill yn India ar ôl i’r awdurdodau ddod o hyd i nifer sylweddol o gyrff wedi’u claddu ar lan afon Ganges.
Y gred yw mai cyrff pobol sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19 ydyn nhw.
Mae’r heddlu wedi bod yn teithio ar hyd afonydd yn India yn gofyn i bobol beidio â gwaredu cyrff yn y modd hwnnw.
Mae’n hen arfer yn y wlad, ond mae’r niferoedd wedi codi’n sylweddol ers y pandemig ac mae’r awdurdodau wedi gwadu honiadau bod mwy na 1,000 o gyrff pobol sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19 wedi’u darganfod mewn afonydd dros y bythefnos ddiwethaf.
Mae lle i gredu nad yw rhai pobol yn amlosgi cyrff ar hyn o bryd o ganlyniad i draddodiadau crefyddol Hindwaidd.
Yn ôl yr awdurdodau, mae nifer y marwolaethau mewn ardaloedd gwledig yn eithriadol o uchel a chan fod trwch y boblogaeth yn dlawd, maen nhw’n ceisio dod o hyd i ffyrdd rhad o waredu gweddillion eu hanwyliaid.
Mae cost amlosgi dair gwaith yn fwy na’r arfer ar hyn o bryd (15,000 rupee neu £149).
Yn ôl newyddiadurwr Associated Press, mae o leiaf 300 o feddi ar lan afon yn ardal Prayagraj ac mae’r heddlu yno’n cadw llygad ar y sefyllfa wrth i bobol gyrraedd i gladdu eu hanwyliaid.
Mae’r awdurdodau wedi neilltuo safle ar lan yr afon i amlosgi cyrff pobol sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19, ond dydy’r heddlu ddim bellach yn galluogi pobol i gladdu gweddillion yno.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth yr awdurdodau o hyd i 71 o gyrff ar lan afon Ganges yn nhalaith Bihar ac er iddyn nhw gynnal post-mortem, doedden nhw ddim yn gallu dweud â sicrwydd fod Covid-19 yn gyfrifol am eu marwolaethau oherwydd cyflwr y cyrff.
Cafwyd hyd i ddwsin o gyrff ar lan afon yn Unnao, sydd ryw 25 milltir o Lucknow, prifddinas talaith Uttar Pradesh, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Heddiw (dydd Sul, Mai 12), mae India wedi cyhoeddi 311,170 o achosion Covid-19 newydd dros y 24 awr diwethaf, i lawr o 326,098 ddoe (dydd Sadwrn, Mai 11).
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi 4,077 o farwolaethau, sy’n mynd â’r cyfanswm ers dechrau’r ymlediad i 270,284.
Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn sylweddol uwch.