Bydd Cymru’n symud i rybudd lefel dau heddiw (dydd Llun, Mai 17) gydag ailagor lleoliadau lletygarwch ac adloniant dan do.
Bydd tafarndai, bwytai, bariau a chaffis yn cael ail-agor yn ogystal â sinemâu yn dod ochr yn ochr â chaniatáu i hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn digwyddiadau awyr agored wedi’u trefnu.
Bu’n rhaid i fusnesau lletygarwch gau, ac eithrio’r rhai sy’n cynnig gwasanaeth tecawê, pan aeth Cymru i gyfnod clo newydd ar Ragfyr 20. Bydd modd i hyd at 50 o bobol ymgynnull mewn digwyddiadau awyr agored.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd modd i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gymorth er mwyn talu unrhyw gostau.
Bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau i bobol yng Nghymru, ond bydd mesurau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i helpu i atal achosion newydd o’r coronafeirws.
Bydd system goleuadau traffig, sy’n cyd-fynd â Lloegr a’r Alban, yn cael ei chyflwyno, gyda gwledydd yn cael eu rhoi mewn categoriau gwyrdd, melyn a choch, yn dibynnu ar eu cyfraddau coronafeirws.
Mae cwarantin gorfodol ar waith ar gyfer pawb sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig o wledydd ar y rhestrau melyn a choch.
Rhaid i bawb sy’n dychwelyd o deithio dramor gael prawf PCR.
Mae pawb nad ydynt yn dilyn y rheolau ar gyfer gwledydd rhestr goch yn wynebu cosbau rhybudd penodedig o £10,000.
“Diogelu iechyd pobol yw ein prif flaenoriaeth”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Bydd Cymru, fel rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yn ailddechrau teithio rhyngwladol.
“Ond diogelu iechyd pobol yw ein prif flaenoriaeth o hyd ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i atal coronafeirws rhag cael ei ail-fewnforio i Gymru.
“Ni fydd hyn fel teithio yn y gorffennol. Bydd yn rhaid i bawb sy’n teithio dramor gael prawf pan fyddant yn dod adref ac i lawer o bobol, bydd angen iddynt fynd i gwarantin pan fyddant yn cyrraedd adref.
“Mae dirwyon sylweddol ar gael i’r rhai nad ydynt yn dilyn y gofynion cyfreithiol.
“Nid yw rhai gwledydd yn agor teithio i bobol o’r DU eto.
“Fy nghyngor cryf i yw mai dyma’r flwyddyn i aros gartref a mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig.”
Crynodeb
Dyma grynodeb o’r llacio diweddaraf:
- Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor – gall chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) archebu
- Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn
- Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad;
- Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau;
- Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas angladd.
- Bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau i bobol yng Nghymru.