Mae Boris Johnson wedi rhybuddio pobl i bwyllo wrth i gymdeithasu dan do a chofleidio gael eu caniatáu, a hynny wrth i bryderon gynyddu am amrywiolyn India.

Dywedodd y Prif Weinidog bod yn “rhaid i bawb chwarae eu rhan” wrth i Loegr lacio rhagor o gyfyngiadau heddiw (Dydd Llun, Mai 17).

Fe fydd tafarndai a bwytai yn gallu croesawu cwsmeriaid yn ôl tu mewn, a bydd ymweliadau i gartrefi teulu a ffrindiau yn cael ei ganiatâi yn ogystal a chodi’r gwaharddiad ar wyliau tramor.

Fe fydd pobl rhwng gwahanol aelwydydd yn cael cofleidio a chael cyswllt corfforol am y tro cyntaf ers i gyfyngiadau ddod i rym dros flwyddyn yn ôl.

Ond mae gwyddonwyr wedi rhybuddio bod angen bod yn wyliadwrus oherwydd pryderon fod amrywiolyn India 50% gwaith yn fwy heintus nag amrywiolyn Caint.

Dywedodd Boris Johnson eu bod yn cadw llygad agos ar yr amrywiolyn o India a bod pobl fregus yn cael cynnig ail ddos mor fuan a phosib.

Mae disgwyl i’r brechlyn gael ei gynnig i bobl dros 35 oed yr wythnos hon.