Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi ei bod yn adolygu a datblygu’r cyfleoedd fel bod teuluoedd preswylwyr cartrefi gofal y Cyngor yn gallu ymweld â nhw.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â symud i Lefel Rhybudd 2 o heddiw (dydd Llun, 17 Mai).
Bydd ymwelwyr a phreswylwyr yn cael cynnig opsiynau ynglŷn â’r lleoliad sydd orau ganddyn nhw ar gyfer yr ymweliad.
Mae hyn yn cynnwys opsiynau ymweld diogel dan do neu yn yr awyr agored, os yw’r tywydd yn caniatáu.
Ar ben hynny, bydd hyd yr ymweliadau yn cael ei ymestyn.
Bydd holiaduron yn cael eu hanfon at deuluoedd er mwyn sicrhau bod llais a dymuniadau preswylwyr yn cael eu cydlynu yn ganolog ac yn cael eu defnyddio i gefnogi’r gwaith o gynllunio a gweithredu unrhyw newidiadau.
“Bydd diogelwch preswylwyr, staff a theuluoedd yn ganolog i’r holl gyfleoedd ymweld â fydd yn cael eu rhoi ar waith,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.
“Mae’r holl Gartrefi Gofal yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd yn ôl.”