Mae byddin Israel wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar Lain Gaza gan ddweud eu bod wedi difrodi naw milltir o dwneli ynghyd a chartrefi naw o arweinwyr honedig Hamas.
Roedd trigolion Gaza, a gafodd eu deffro gan y sŵn dros nos, wedi ei ddisgrifio fel yr ymosodiad gwaethaf ers i’r rhyfel ddechrau wythnos yn ôl. Cafodd 42 o bobl eu lladd mewn ymosodiadau yn ninas Gaza ddydd Sadwrn, ar ôl i dri adeilad gael eu difrodi.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu yn yr ymosodiadau diweddaraf. Cafodd adeilad tri llawr yn ninas Gaza ei ddifrodi ond dywedodd trigolion bod y fyddin wedi rhoi rhybudd iddyn nhw 10 munud cyn yr ymosodiad ac roedd pawb wedi llwyddo i adael.
Dywedodd maer Gaza, Yahya Sarraj, wrth Al-Jazeera TV bod yr ymosodiadau wedi achosi difrod sylweddol i ffyrdd ac isadeiledd.
“Os yw’r ymosodiadau yn parhau ry’n ni’n disgwyl i’r amodau waethygu,” meddai.
Fe rybuddiodd hefyd bod y diriogaeth yn mynd yn brin o danwydd ac offer arall.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod unig orsaf bŵer Gaza mewn perygl o fod heb danwydd. Mae’r diriogaeth eisoes yn wynebu colli cyflenwad pŵer am oddeutu 8 i 12 awr y dydd, ac nid yw’n bosib yfed y dwr tap.
Fe ddechreuodd y rhyfel ddydd Llun diwethaf ar ôl i Hamas danio taflegryn at Jerwsalem yn dilyn wythnosau o wrthdaro yn y ddinas rhwng protestwyr Palestinaidd a heddlu Israel.