Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi galw ar Mark Drakeford i ailystyried y penderfyniad i gynnal holl ddigwyddiadau prawf Covid-19 yn y De a’r Gorllewin.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf yr wythnos ddiwethaf, ac roedden nhw’n cynnwys Tafwyl dros y penwythnos, a dathliadau Eid yng Nghastell Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r holl ddigwyddiadau prawf yn cael eu cynnal i’r de o Aberhonddu, ac mae Mark Isherwood wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn pam fod y Gogledd yn colli cyfle, ac yn ei annog i ailystyried.
“Etholwyr pryderus”
Yn y llythyr, dyweda Mark Isherwood: “Mae nifer o etholwyr pryderus yng ngogledd Cymru wedi cysylltu â fi gyda sylwadau fel y canlynol:
“‘Fe wnes i ddarllen heddiw fod Llywodraeth Cymru am gynnal naw digwyddiad gyda thorfeydd, a gemau chwaraeon, yng Nghymru er mwyn caniatáu i gefnogwyr ddychwelyd yn sâff i stadia a digwyddiadau. Dw i hefyd yn nodi fod pob un o’r digwyddiadau yn y De a’r Gorllewin, gyda’r un pellaf i’r gogledd yn Aberhonddu.
“Hoffwn ofyn pam nad oes digwyddiadau yn cael eu hystyried ar gyfer gogledd Cymru?
“Mae tymor Cynghrair Rygbi Croesgadwyr Gogledd Cymru newydd ddechrau. Rydyn ni wedi gofyn am ystyriaeth ar gyfer treialu ein gemau cartref fel digwyddiadau prawf.
“Hoffwn i chi ymchwilio pam nad yw ein gemau cartref wedi cael eu hystyried’.”
“Anghofio” am y Gogledd
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i ddweud fod etholwr arall wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw gemau tîm pêl-droed Wrecsam wedi cael eu hystyried.
Ddydd Gwener fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd cefnogwyr yn cael mynychu gemau ail-gyfle Abertawe a Chasnewydd.
“’Beth am glwb pêl-droed Wrecsam?” hola un o etholwyr Mark Isherwood.
“Mae ganddyn nhw ddwy gêm gartref hanfodol i’w chwarae, ac os yw’r canlyniadau’n ffafriol gallai olygu eu bod nhw’n chwarae gemau ail-gyfle. A wnewch chi wneud eich gorau i wyrdroi’r penderfyniad?’
“Byddwn yn ddiolchgar pe bai chi’n gallu rhoi eich sylw i hyn, a chadarnhau’r trywydd rydych chi’n bwriadu gweithredu arno,” meddai Mark Isherwood.
“Llywodraeth Cymru sydd wedi penderfynu lle bydd y treialon hyn yn cael eu cynnal, ac yn ôl eu harfer maen nhw wedi anghofio am ogledd Cymru’n llwyr.
“Rhaid i’r Prif Weinidog gofio fod ei Lywodraeth yn cynrychioli Cymru gyfan, ac felly’n mae’n rhaid iddo wrando a gweithredu ar farn clybiau a chefnogwyr yma yng ngogledd Cymru.
“Mae pethau wedi bod yr un mor anodd i glybiau yng ngogledd Cymru â mewn rhannau eraill o Gymru trwy gydol y pandemig, ac mae’n gwbl annheg eu bod nhw’n methu allan.”