Mae cwmnïau teithio yn galw am ychwanegu mwy o wledydd at y rhestr werdd wrth i’r cyfyngiadau ynghylch teithio dramor lacio.

Er bod y cwmnïau wedi croesawu’r cynnydd mewn galw, maen nhw’n gofyn am ganiatáu i bobol ddychwelyd o ragor o wledydd heb orfod hunanynysu.

Un o’r gwledydd sydd ar y rhestr werdd yw Portiwgal, a bydd 16 o awyrennau yn hedfan o Loegr yno heddiw (Mai 17) wrth i filoedd o bobol deithio dros y môr.

Mae Mark Drakeford wedi annog pobol i beidio â theithio dramor, ac i fanteisio ar wyliau dramor yng Nghymru eleni.

Gan atseinio sylwadau Mark Drakeford, rhybuddiodd Syr Jeremy Farrar, cyfarwyddwyr elusen yr Ymddiriedolaeth Wellcome, fod “yna risg” y gallai’r amrywiolyn a gafodd ei ddarganfod yn India gael ei ledaenu gan bobol yn teithio allan o’r Deyrnas Unedig.

“Dw i’n meddwl y dylai teithio gael ei wneud yn ofalus iawn, a dim ond pan ei fod yn hollol angenrheidiol,” meddai wrth Radio 4 heddiw.

Daw hyn wedi i Ysgrifennydd Iechyd y Deyrnas Unedig, Matt Hancock, ddweud wrth Times Radio na ddylai pobol fynd i’r llefydd ar y rhestr oren “oni bai fod rheswm cwbl anorfod”.

“Carreg filltir”

Yn y cyfamser, mae prif weithredwr British Airways wedi dweud fod ailddechrau teithio dramor yn “garreg filltir bwysig”, yn enwedig i bobol “sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u hanwyliad ers dros flwyddyn”.

Ychwanegodd Sean Doyle fod rhaid i’r Llywodraeth “ddechrau gosod statws gwyrdd ar gyfer llawer mwy o wledydd â risg isel wrth i’w cyfraddau brechu gynyddu”.

Dywedodd rheolwr maes awyr Heathrow, John Holland-Kaye, ei fod “wedi synnu, ac yn siomedig” fod Ynysoedd y Caribî ddim ar y rhestr werdd gan “fod y risg yn isel mewn nifer o ynysoedd”.

Ategodd “na fydd nifer o gwmnïau yn gwneud hi i’r flwyddyn nesaf” oni bai fod y rhestr werdd yn cael ei hymestyn cyn misoedd Gorffennaf ac Awst.

Prisiau uwch

Daw hyn wrth i brif reolwr Ryanair rybuddio y bydd yn rhaid i deithwyr dalu mwy y flwyddyn nesaf i deithio dramor.

Yn ôl Michael O’Leary bydd prisiau tocynnau awyrennau yn ddrytach yn 2022 oherwydd bod gostyngiad o 25% yn nifer y seddi sy’n gallu cael eu defnyddio.

“Does dim amheuaeth yn fy meddwl y bydd prisiau yn codi, yn enwedig yn ystod adegau prysur fel penwythnosau gwyliau banc, a chyfnodau teithio gwyliau ysgol,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Byddwn ni’n annog pobol i archebu tocyn yn gynnar iawn oherwydd dw i’n meddwl y bydd llai o seddi, a bydd prisiau’n uwch.”

castell tywod

“Ewch ar wyliau yng Nghymru yn lle mynd dramor eleni” – cyngor Mark Drakeford

Llywodraeth Cymru yn cynghori pobol i fanteisio ar gyfleoedd i fynd ar wyliau yng Nghymru