Mae gyrrwr wedi marw, a dau o ddisgyblion wedi cael eu cludo i’r ysbyty, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws ysgol yn Sir Benfro.
Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth gyrrwr y car farw ar safle’r gwrthdrawiad yn ardal Efailnewydd, yng ngogledd y sir.
Digwyddodd y ddamwain tua 8:30 fore heddiw (Mai 17) ar yr A478 rhwng Llandysilio a Llanglydwen.
Roedd y bws ysgol yn cludo plant i Ysgol y Preseli, ysgol uwchradd Crymych, pan ddigwyddodd y ddamwain.
“Nid yw’r un o’r anafiadau i’r bobol ifanc yn rhai difrifol, mae’n debyg”
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau fod nifer o blant ysgol wedi cael mân anafiadau, gyda’r ysgol yn dweud wrth BBC Wales mai’r nifer oedd 17 disgybl.
“Nid yw’r un o’r anafiadau i’r bobol ifanc yn rhai difrifol, mae’n debyg,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro.
“Digwyddodd y gwrthdrawiad o gwmpas 8:30am wrth i’r bws gludo disgyblion i Ysgol y Preseli.”
Ychwanegodd y llefarydd fod rheini a gofalwyr y disgyblion yn ymwybodol, a bod rhif ffôn arbennig – 01437 775400 – wedi cael ei sefydlu ar gyfer rhieni a gofalwyr pryderus.
‘Diwrnod trist iawn’
“Mae’n ddiwrnod trist iawn ac mae cwmwl dros ein cymuned,” meddai’r cynghorydd lleol, Huw George, wrth y BBC.
“Roedd yn amlwg yn weddol gynnar bod hyn yn ddamwain erchyll oherwydd nifer y cerbydau brys oedd yma y bore ’ma.”
Dywedodd fod yr ysgol wedi “gweithio’n gyflym” – gan ychwanegu bod ystafell ddosbarth wedi’i neilltuo ar eu cyfer ac y byddai cwnselwyr yn mynd i’r ysgol i helpu’r plant.