Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi’r ardaloedd arfordirol sydd wedi ennill Gwobrau Arfordir Cymru eleni.

Ar draws y wlad, mae 73 o ardaloedd wedi bodloni’r safonau rhyngwladol ar gyfer ennill Gwobr y Faner Las, y Wobr Arfordir Glas, a’r Wobr Glan Môr.

Mae’r Faner Las yn eco label adnabyddus dros y byd, ac ers dros dri degawd mae hi wedi cael effaith drawsnewidiol ar ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, diogelwch, a gwasanaethau.

Ni chafodd unrhyw fflagiau eu chwifio llynedd yng Nghymru oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, ac mae yna achos go iawn i ddathlu wrth i draethau a marinas Cymru barhau i gynnal y safon uchel eleni.

Y Gwobrau

Yn ôl Cadwch Cymru’n Daclus, mae’r llwyddiant parhaus hwn ar draws arfordir Cymru yn ganlyniad i bawb a barhaodd i weithio yn ystod anawsterau’r llynedd, ac sy’n parhau i wella a diogelu’r amgylcheddau arfordirol.

Eleni, mae yna 45 o Faneri Glas yn hedfan yng Nghymru, 25 o draethau wedi cyflawni’r Wobr Glan Môr ac mae 13 o draethau yng Nghymru wedi cael y Wobr Arfordir Glas.

Gallwch weld rhestr lawn o’r ardaloedd sydd wedi ennill gwobrau ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

“Ffodus”

“Rydym yn ffodus i gael rhai o draethau a marinas gorau’r byd ar garreg ein drws,” meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru yn Daclus.

“Mae’r llwyddiant yn dyst i bawb sydd wedi gweithio mor galed i amddiffyn a gwella ein traethau a chadw ein harfordir yn lân ac yn ddiogel.”

“Gyda gwasanaethau lleol dan bwysau aruthrol oherwydd COVID-19, roedd angen i ni i gyd dynnu at ein gilydd i ofalu am ein hamgylchedd naturiol.

“Gobeithiwn y bydd ymwelwyr sy’n dychwelyd i’n harfordir syfrdanol yn ei drysori’n fwy nag erioed ac yn mwynhau ein traethau’n gyfrifol.

“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud atgofion, nid llanast – ac yn mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.”