Mae’r DUP wedi ethol Edwin Poots fel arweinydd i olynu Arlene Foster.

Yn wahanol i’w ragflaenwyr, fodd bynnag, nid yw Edwin Poots, yn bwriadu gwasanaethu fel Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Mae disgwyl i’r aelod dros etholaeth Lagan Valley ar Gynulliad Gogledd Iwerddon benodi rhywun arall yn ei le ar gyfer y brif swydd gan ei fod yn awyddus i ganolbwyntio ei egnïon ar arwain ei blaid.

Llwyddodd Edwin Pitts i drechu Syr Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP yn San Steffan, o drwch blewyn ddoe – o 19 pleidlais i 17 ymlith y 36 o aelodau sy’n ffurfio coleg etholiadol y blaid.

Wrth gael ei ethol dywedodd y bydd yn uno unoliaethwyr ac yn ymladd yn erbyn y trefniadau masnachol sydd mewn grym yng Ngogledd Iwerddon ers Brexit.

Dywedodd y bydd yn cyfarfod Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis, yr wythnos nesaf, i drafod y protocol dadleuol.

Mae’n galw ar ei gyd-unoliaethwyr i weihtio gydag ef i ymladd yn erbyn y protocol sy’n gosod rhwystrau masnachol rhwng Gogledd Iwerddon ac ynys Prydain.

“Dw i eisiau gweld unoliaethwyr yn gweithio gyda’i gilydd,” meddai.

“Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn profi i fod yn her fawr inni, ac er mwyn ei ymladd rhaid inni wneud hynny gyda’n gilydd.

“Dw i eisiau sicrhau na fydd unoliaethwyr yn ffraeo ymysg ei gilydd fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a byddaf yn annog pob unoliaethwr i weithio gyda mi i osod y sylfaeni eleni am 100 mlynedd arall o Ogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig.”