Mae siopau olaf Debenhams yn cau heddiw, gan ddod â 243 mlynedd o hanes y cwmni i ben.

Dim ond siopau Abertawe a Chaerdydd yng Nghymru a oedd ymhlith y 28 siop a oedd ar ôl ym Mhrydain.

Roedd siopau’r cwmnni yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Wrescam, Bangor, Llandudno a Chasnewydd eisoes wedi cau ers dechrau’r mis.

Roedd y cwmni wedi gweld dirywiad yn ei werthiannau dros y blynyddoedd diwethaf wrth i siopwyr wario llai yn y siopau mawr traddodiadol a throi fwyfwy at y we.

Profodd y pandemig, wrth i siopau orfod cau am wythnosau, i fod yr ergyd derfynol a wthiodd y cwmni dros y dibyn.

Er bod bod y cwmni ar-lein Boohoo wedi prynu brand a gwefan Debenhams ym mis Ionawr, bydd yr holl safleoedd brics a mortar yn cau eu drysau am y tro olaf heno.