Mae’r elusen Y Lleng Brydeinig Frenhinol yn dathlu can mlynedd o helpu cyn-filwyr heddiw, dydd Sadwrn 15 Mai.
Cafodd torchau eu gosod gan gynrychiolwyr o’r lluoedd arfog ar y senotaff yn Llundain am 9 o’r gloch y bore yma. Roedd hyn yn ail-greu union yr hyn a wnaed union gan mlynedd yn ôl i sefydlu’r elusen mewn ymateb i’r holl filwyr a gafodd eu clwyfo yn y Rhyfel Mawr rai blynyddoedd ynghynt.
Prif weithgaredd yr elusen dros y can mlynedd ddiwethaf yw’r apêl pabi blynyddol i godi arian i helpu cyn-filwyr.
“Ym mlwyddyn ein canmlwyddiant, rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol,” meddai cyfarwyddwr cyffredinol y Lleng Brydeinig, Charles Byrne.
“Mae ein treftadaeth falch a 100 mlynedd o brofiad yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog wedi adeiladu sylfeini cryf ar gyfer mudiad sy’n addas ar gyfer y 100 nesaf.
“Rydym yn parhau’n ymroddedig i’n cenhadaeth fod y rheini sydd wedi rhoi cymaint dros eu gwlad yn cael y driniaeth, y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth deg maen nhw’n ei haeddu.”