Mae Tsieina wedi glanio llong awyr ofod ar y blaned Mawrth am y tro cyntaf.

Cafodd hyn ei gadarnhau gan asiantaeth newyddion swyddogol y wlad yn oriau mân y bore:

“Mae Tsieina wedi gadael ôl ei throed ar y blaned Mawrth am y tro cyntaf, cam pwysig ymlaen i’n gwlad wrth archwilio’r gofod.”

Fe fydd cerbyd yn archwilio rhan o’r blaned sy’n cael ei adnabod fel Utopia Planitia.

Mae’r Unol Daleithiau wedi glanio’n llwyddiannus naw gwaith ar Fawrth ers 1976, ac mae cerbyd ganddyn nhw yno ar hyn o bryd ers mis Chwefror.

Mae Tsieina wedi glanio ar y lleuad o’r blaen, gan ddod â chreigiau oddi yno’n ôl i’r ddaear y llynedd, ond mae glanio ar Fawrth yn dasg lawer mwy anodd.