Mae dyn a gafodd ei anfon o Lundain i Lanelli i gyflenwi cocên a heroin wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis.

Cyfaddefodd Mohamed Abdinasir Mohamed ddau gyhuddiad o fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi. Roedd wedi cael ei ddal gan yr heddlu’n ceisio cuddio 52 pecyn o crac cocên a heroin yn ei drôns.

Cafodd y dyn 20 oed ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn gwarant ar Zion Row yn Llanelli ddydd Iau, Ebrill 29.

Canfuwyd bod ganddo 3.86g o crac cocên gwerth tua £320, a 9.45g o heroin gwerth tua £960, a £538 mewn arian parod. Canfuwyd hefyd gyllell ac iddi lafn 12 modfedd yn y ty.

“Cafodd y cyrch ei weithredu yn dilyn gwybodaeth fod gang wedi cyrraedd ardal Llanelli yn ddiweddar,” meddai’r Ditectif Arolygydd Rhys Jones. “Fe wnaeth ymchwil pellach ein harwain at gyflwyno cais am warant ar dy penodol.”

Yr unig berson yn y ty oedd Mohamed, a gyfaddefodd iddi geisio cuddio sylweddau anghyfreithlon. Dyweododd iddo gael ei anfon o Lundain i Lanellli i gyflenwi cyffuriau, a’i fod yn derbyn galwadau ffôn gan ddyn anhysbys yn dweud wrtho beth i’w wneud.

“Mae hyn yn waith rhagorol o adnabod ‘county line’ a gang o droseddwyr,” meddai Rhys Jones. “Mae gweithredu cynnar wedi golygu cael gwared ar gyffuriau dosbarth A o’r strydoedd, yn ogystal â chyllell beryglus a allai fod wedi achosi niweidiau erchyll.”