Mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dweud bod “rhaid i ni greu penawdau yn Gymraeg”, a chreu cynnwys gwreiddiol a diddorol yn yr iaith.
Bydd rhaglen ddogfen ar S4C yn holi’r rhai sy’n gwrthod cymryd brechlyn Covid-19 yng Nghymru, ac yn edrych ar y sefyllfa yn yr Unol Daleithiau hefyd.
Wrth drafod y rhaglen Covid, y Jab a Ni gyda golwg360, dywed Maxine Hughes, y gyflwynwraig yn America, mai un o’r pethau pwysicaf am y prosiect oedd ei wneud drwy’r Gymraeg.
Ond yr hyn ddaeth yn amlwg i Gwenfair Griffith, cyfarwyddwraig y rhaglen, oedd y diffyg ffydd ymysg y rhai sy’n gwrthod y brechlyn mewn newyddiaduraeth prif ffrwd.
Colli ffydd mewn newyddiaduraeth
Wrth i’r diffyg ffydd mewn newyddiaduraeth ddod i’r amlwg, sylweddolodd Gwenfair Griffith y byddai Sian Morgan Lloyd, sy’n darlithio ym maes Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gyflwynwraig berffaith yr ochr yma i’r Iwerydd.
“Roedd yna lawer o amheuaeth gan bobol mewn newyddiadurwyr,” meddai Gwenfair Griffith wrth golwg360.
“Beth oeddech chi’n ffeindio ma’s wrth edrych ar yr ymchwil oedd bod yna deimlad mawr yn y grwpiau yma ar-lein eu bod nhw jyst ddim yn meddwl fod newyddiadurwyr traddodiadol yn dweud y gwir ynghylch holl sefyllfa’r brechlyn.
“Dw i’n credu fod hwnna’n rhyw fath o deimlad sy’n cael ei ailadrodd yn rheolaidd yn y grwpiau, a doedd pobol ddim yn meddwl y dylen nhw siarad gyda fi.
“Beth mae’r rhaglen yn edrych mewn iddo yw sut mae pobol yn gweld newyddiadurwyr, a dw i’n credu bod e’n wir fod newyddiaduraeth wedi newid dros y pandemig.”
“Mae’n debyg fod yna dystiolaeth sy’n awgrymu fod pobol sy’n cael y rhan fwyaf o’u newyddion drwy ffynonellau cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn amheus o’r brechlyn,” meddai Gwenfair Griffith wedyn wrth drafod effaith y cyfryngau cymdeithasol.
“Buon ni’n siarad gyda rhai o’r ffynonellau amgen hyn ynglŷn â’u gwerthoedd nhw a beth maen nhw’n ei rannu ac ati.
“Roedd rhai’n dweud fod gan y brif ffrwd agenda, wel beth sy’n dod yn amlwg yw bod gan rhai pobol eraill agenda hefyd.”
America
Yn ôl Gwenfair Griffith, cyfarwyddwraig y rhaglen, roedd pobol yn fwy amheus o’r brechlyn ar ddechrau’r pandemig, gydag ystadegau bellach yn dangos fod un o bob wyth person rhwng 16 a 29 oed yng ngwledydd Prydain yn amheus ohono.
Ym Mhrydain hefyd, mae un o bob tri o oedolion croenddu, a 22% o Fwslimiaid yn amheus ynghylch cymryd y brechlyn.
Yn yr Unol Daleithiau, mae un ymhob pedwar person yn amheus ohono. Ar ddechrau’r pandemig, roedd y ganran mor uchel â hanner y boblogaeth.
“Ti’n clywed y geiriau cancel culture yn aml iawn yn fan hyn,” meddai Maxine Hughes wrth golwg360.
“Mae pobol sydd ar y dde, yn enwedig, yn meddwl fod y cyfryngau ar y chwith yn stopio rhoi platfform iddyn nhw.
“Felly, mae pobol sy’n teimlo rhyw ffordd am y brechlyn ddim yn cael rhannu, neu fod ar y platfformau main stream yn teimlo fod yna cancel culture.
“Mae hynny’n gwthio nhw wedyn i rannu pethau, a defnyddio platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Creu penawdau yn Gymraeg
“Be’ sydd wedi bod yn bwysig, mwy na jyst gwneud y prosiect yma, ond gwneud y prosiect yn Gymraeg,” esboniodd Maxine Hughes.
“Dw i’n teimlo’n gryf iawn bod hi’n bwysig iawn i ni wneud cynnwys sy’n wreiddiol a diddorol yn y Gymraeg, sy’n edrych allan ar y byd. Dydyn ni ddim yn gorfod aros i blatfforms Saesneg wneud pethau gyntaf.
“Dw i’n meddwl fod rhaid i ni wthio hynna lot mwy, a dw i hefyd yn teimlo’n gryf iawn bod rhaid i ni greu penawdau yn y Gymraeg.
“Ac os yw hynny’n golygu weithiau ein bod ni’n gwneud cyfweliadau gyda phobol am bynciau dadleuol, yna mae’n rhaid i ni wneud hynny.
“Rydyn ni’n gallu gwneud hynny, mae gennym ni hawl i wneud hynny.
“Dw i ddim eisiau i bobol ifanc, yn enwedig, feddwl eu bod nhw’n gorfod troi at gyfryngau Saesneg i gael pethau mwy dadleuol, dw i eisiau iddyn nhw gael popeth yn Gymraeg.
“Dw i’n meddwl fod rhaid i ni gael y sgyrsiau yma yn Gymraeg yn lle gorfod mynd at blatfforms eraill yn Saesneg.
“Dw i’n teimlo’n falch iawn fod S4C wedi gadael i ni wneud y ffilm yma, a hefyd y fformat yma. Mae’n rhywbeth gwahanol iawn gydag un yn America ac un yng Nghymru.
“Trwy’r ffilm mae’n teimlo fel ein bod ni ar daith, ac rydyn ni’n gwneud ymchwil. Mae yna lot o back and forth rhwng Cymru ac America.
“Dw i’n teimlo’n rili hapus, ac mae’n inspiring fod S4C wedi mynd amdano, a gwneud y ffilmiau yma.”
Covid, y Jab a Ni ar S4C am naw nos Iau, Mai 20.